Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 30 Tachwedd 2015

30 Tachwedd 2015
  • Cafodd y Bwrdd Gweithredol gyflwyniad gan Simon Wright, y Cofrestrydd Academaidd, ynghylch sut mae Canolfan y Myfyrwyr yn dod yn ei blaen a’r broses gysylltiedig o ailddylunio gwasanaethau. Cyflwyno i’r Cyngor ym mis Rhagfyr fydd y cam nesaf.  Ni ddisgwylir i’r achos busnes terfynol gael ei gyflwyno tan fis Mai 2016.
  • Nodwyd bod Bwrdd y Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn dod yn ei flaen yn dda.
  • Nodwyd bod prosiect ‘Mathemateg yn Arbed Bywydau’ yr Ysgol Mathemateg wedi ennill y wobr am Gyfraniad Rhagorol at Arloesedd a Thechnoleg yn seremoni Gwobrau Times Higher Education yn ddiweddar.
  • Cafodd y Bwrdd amlinelliad o’r Adolygiad o Wariant a Datganiad yr Hydref 2015, ac Adolygiad Nurse.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am benodi Deoniaid Ymchwil Ôl-raddedig newydd y Colegau. Adolygwyd y disgrifiad swydd a chaiff mân newidiadau eu gwneud cyn hysbysebu’r swyddi yn y Colegau.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am y Prentisiaethau Gradd newydd. Roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi eu bod am gyflwyno’r Prentisiaethau Gradd newydd sydd wedi’u dylunio ar gyfer diwydiant. Roedd lleoedd wedi’u cynnig o fis Medi 2015 a byddai Llywodraeth y DU a chyflogwyr yn rhannu ffioedd y cwrs. Nodwyd nad oedd yn glir o hyd p’un a fyddai prentisiaethau o’r fath ar gael yng Nghymru, a bydd rhaid gofyn am eglurhad.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad misol y Rhag Is-Ganghellor.
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Ystadau.
  • Y newyddion diweddaraf am y System Arloesedd.
  • Adroddiad am weithgareddau Ymgysylltu.
  • Adroddiad misol Ymchwil ac Arloesi.
  • Adroddiad am weithgareddau Rhyngwladol ac Ewropeaidd.