Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Deon newydd i arwain arloesedd dysgu ac addysgu

26 Tachwedd 2015

Gwelodd yr wythnos ddiwethaf ddatblygiadau cyffrous yn nyfodol Dysgu ac Addysgu yng Nghaerdydd. Ar ddechrau’r wythnos penodwyd Deon Arloesedd Addysg, Dr Robert Wilson o MATHEMATEG, a bydd ei rôl yn helpu i lunio ac arwain y Ganolfan Arloesedd Addysg. Y Ganolfan yw conglfaen y prosiect yn y Rhaglen Ymgysylltu Academaidd, sy’n rhan o’r Portffolio Addysg ehangach, ac sy’n fuddsoddiad hirdymor Caerdydd mewn dysgu ac addysgu. Ar ddydd Iau cawsom lansiad swyddogol y Ganolfan ac roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr, gyda dros 200 o gydweithwyr yn ymuno â ni ar y diwrnod. Yn ystod y sesiynau, cawsom gyflwyniadau gwych gan amrywiaeth o academyddion sy’n dangos yr ansawdd uchaf a gwaith arloesol y maent eisoes yn ei wneud mewn dysgu ac addysgu. Tynnwyd sylw hefyd at rai o’r mentrau mawr y mae’r Ganolfan eisoes yn eu datblygu, megis arian arloesedd ar gyfer academyddion, fframwaith DPP newydd, banc adnoddau ar draws y Brifysgol, yn ogystal â manylu ar sut y gallwch gysylltu â’r Ganolfan i ddatblygu’r cynnig yn y tymor hwy. Rhoddodd y toriad cinio gyfle i gydweithwyr rwydweithio, i gael gwybod mwy am brosiectau eraill oddi mewn i’r portffolio, ac i archwilio eu meddyliau ac adborth. Mae hwn yn ddechrau newydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac rydym yn annog cydweithwyr i ymgysylltu â ni i’n helpu i lunio’r tirwedd dysgu ac addysgu yn y dyfodol.