Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 23 Tachwedd 2015

23 Tachwedd 2015
  • Cafodd y Bwrdd Gweithredol ddrafft yr adroddiad blynyddol am reoli pobl cyn ei gyflwyno i’r Cyngor.
  • Cafodd y Bwrdd Gweithredol y tariffau llwyth gwaith treial diwygiedig. Cafodd y tariffau hyn eu cymeradwyo.
  • Yn dilyn cyfarfod diweddar y Senedd, bydd yr adroddiad gan grŵp gorchwyl a gorffen Ymchwil Ymlaen ar gyfer y Bwrdd Gweithredol yn cael ei ledaenu’n ehangach cyn bo hir.
  • Nodwyd bod y Brifysgol yn rhan bwysig o’r consortiwm sydd wedi denu’r canolfan Catapult cyntaf i Gymru, sef Canolfan Arloesedd Ranbarthol Precision Medicine Catapult yng Nghaerdydd. Cafodd y Bwrdd Gweithredol bapur am bwyntiau trafod posibl gyda Phrif Weithredwr Precision Medicine Catapult.
  • Cafodd y Bwrdd Gweithredol bapur am wella dulliau cyfathrebu’r Bwrdd. Roedd y papur yn cynnwys nifer o awgrymiadau a syniadau er mwyn gwella sut mae staff yn ymgysylltu â’r Bwrdd Gweithredol.  I alluogi gwell dealltwriaeth o rôl y Bwrdd a phob aelod ohono, cytunwyd y gellir creu ffilm fer a allai ddangos y Bwrdd yn rhyngweithio.
  • Cafodd y Bwrdd Gweithredol Ddogfen Ymgysylltu Cynllunio Strategol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW). Cytunodd y Bwrdd i gymeradwyo’r ddogfen ac argymhellodd i’r Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau ei chyflwyno gerbron y Cyngor i’w chymeradwyo.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
  • Adroddiad misol Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd.
  • Adroddiad misol y Prif Swyddog Gweithredol.