Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Cynnal rhagoriaeth ymchwil

26 Tachwedd 2015

Yn gynharach eleni, cefais dasg gan yr Is-Ganghellor i arwain Research Forward, prosiect sy’n anelu at gynyddu incwm ymchwil a chyfaint, gan adeiladu ar ganlyniadau rhagorol REF 2014, a sefydlu fframwaith a fydd yn siapio paratoadau ar gyfer REF 2020.

Mae hyn yn rhywbeth y byddem yn dymuno ei wneud er gwaethaf y REF. Fel prifysgol, rydym yn canolbwyntio ar ragoriaeth ac yn awyddus i gynnal ein safle fel un o 10 prifysgol uchaf yn y DU a dod yn sefydliad byd-eang yn y 100 uchaf.

Beth bynnag fydd yn digwydd gydag unrhyw REF yn y dyfodol, a all fod mor bell i ffwrdd â 2021, rydym am fod mewn sefyllfa i gofrestru ein holl staff ac i sicrhau bod gennym yr allbynnau ymchwil ac astudiaethau achos o effaith i gefnogi’r cyflwyniadau hynny.

Roedd y prosiect yn cynnwys pum thema incwm ymchwil, rhagoriaeth ymchwil, effaith, allbynnau a chyfeiriadau, ac ymchwil ôl-raddedig. Asesodd lle rydym yn awr, a’r hyn y mae angen i ni ei wneud er mwyn cyflawni ein nodau fel y nodir yn Y Ffordd Ymlaen, a chyflwyno dychweliad mwy cynhwysol a mwy o faint yn 2020.

Roedd y papur a aeth i’r Senedd ar 18 Tachwedd, yn cynrychioli darn sylweddol o waith, sy’n cynnwys nifer o gydweithwyr gwasanaethau academaidd a phroffesiynol ar draws y brifysgol.

Gwyddom i gyflawni ein huchelgais bod yn rhaid i ni ddarparu staff gyda nodau ac amcanion clir, a hefyd gynnig cefnogaeth a chyfleoedd datblygu cyson o ansawdd uchel.

Byddaf yn trafod canlyniadau’r prosiect gydag uwch staff a chyfarwyddwyr ymchwil, a byddaf yn dilyn hyn i fyny gyda phob un o dri bwrdd y Coleg ym mis Rhagfyr.

Bydd REF sy’n treiglo, gan ddysgu o ganlyniadau’r cynllun peilot a gynhaliwyd yn AHSS, yn cael ei sefydlu ar sail ledled y Brifysgol ar ddechrau 2016.