Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 5 Hydref 2015

5 Hydref 2015
  • Nodwyd y croesawyd presenoldeb y Brifysgol yng nghynadleddau’r pleidiau gwleidyddol ac yn lansiad Sefydliad Ymchwil Prifysgol Caerdydd yn ddiweddar.
  • Nodwyd bod Heddlu De Cymru wedi cynnull uwchgynhadledd arweinyddiaeth a oedd yn cynnwys prifysgolion yng Nghaerdydd a Chyngor Caerdydd, er mwyn meithrin partneriaeth tymor hir i ddatblygu amgylchedd diogel ar gyfer trigolion ac ymwelwyr yng Nghaerdydd.
  • Derbyniodd y Bwrdd Gweithredol bapur ar gynlluniau ysgoloriaethau a bwrsariaethau israddedig y DU/UE 2015/16. Cytunwyd i gymeradwyo parhad y cynllun ar yr un sail eang ar gyfer 2016/17.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Roedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am dargedau NSS y Coleg yn Y Ffordd Ymlaen, gan nodi bod sgôr y Coleg ar gyfartaledd wedi cynyddu o 87% yn 2014 i 90% yn 2015 ar gyfer boddhad myfyrwyr, a bod saith o’r deg ysgol wedi cyrraedd y targed o 90% neu drosodd.
  • Adroddiad Misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd. Roedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau allweddol: Canolfan y Myfyrwyr, y Portffolio Newid Addysg a Lleoedd Dysgu Ffisegol.