Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 28 Medi 2015

28 Medi 2015
  • Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd Gweithredol am y gwaith parhaus o roi cyngor diogelwch i fyfyrwyr, a rhoi sicrwydd iddynt yng ngoleuni’r ymosodiadau rhywiol yn ardal Cathays.
  • Nodwyd y cyflawnwyd dwy ran o dair o’r Rhaglen Ymgyfarwyddo i Staff Academaidd, ar gyfer staff academaidd newydd, a chafwyd adborth cadarnhaol.
  • Nodwyd bod y Brifysgol wedi codi 26 lle yn rhestr Times Higher Education o brifysgolion gorau’r byd, o safle 208 i safle 182. Dylai bod ymhlith y 200 o brifysgolion gorau’r byd arwain at fanteision rhyngwladol.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad misol y Rhag Is-Ganghellor. Roedd yr adroddiad yn diolch i bawb a fu’n rhan o’r broses cadarnhau a chlirio newydd ym mis Awst. Nodwyd llwyddiant y system, a dywedwyd bod nifer priodol o fyfyrwyr wedi cael eu derbyn.  Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi’r sesiwn ar gynllun meistr yr isadran ystadau, a gynhaliwyd ar gyfer nifer o ASau ac ACau Cymru i sicrhau bod cynlluniau ystadau Prifysgol Caerdydd yn cael eu cyfathrebu’n effeithiol â gwleidyddion lleol.
  • Y newyddion diweddaraf am y System Arloesi. Roedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgarwch diweddar.  Nododd hefyd fod yr Athro Gillian Bristow a’r Athro Kim Graham i’ll dau wedi derbyn gwahoddiad i ymuno â Grŵp Llywio’r System Arloesi yn dilyn eu penodiadau diweddar fel Deon Ymchwil Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol a Deon Ymchwil Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd. Bydd yr Athro Ian Hargreaves yn ymuno â’r Grŵp Llywio hefyd, gan gynrychioli maes yr economi greadigol.
  • Adroddiad ar Weithgareddau Ymgysylltu. Roedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am bob un o’r prif brosiectau ymgysylltu ac am y gweithgareddau ymgysylltu â llywodraethau Cymru a’r DU. Dywedodd hefyd fod y gwefannau ar gyfer yr holl brosiectau wedi cael eu lansio – http://www.caerdydd.ac.uk/community-gateway/home; http://www.caerdydd.ac.uk/city-region-exchange/home; http://www.communityjournalism.co.uk/ên/; http://www.caerdydd.ac.uk/phoenix-project/home; http://www.caerdydd.ac.uk/strong-communities-healthier-people/home (mae Cymunedau Iach, Pobl Iachach a’r Porth Cymunedol wedi cytuno i ddatblygu cynllun gwaith a rennir ar gyfer 2015-17, ac i ystyried cyfleoedd i gydweithio ar ôl 2017).
  • Adroddiad misol Ymchwil ac Arloesi. Roedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch ymchwil ac arloesi allweddol nawr ac yn y dyfodol, a mesurau perfformiad cysylltiedig.
  • Adroddiad misol y Prif Swyddog Gweithredol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf gan bob un o’r Adrannau Gwasanaethau Proffesiynol corfforaethol.
  • Diweddariad o Brosiectau Ystadau.
  • Adroddiad misol Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd. Yn ôl yr adroddiad, mae’r Coleg yn bwrw ymlaen â’i gynlluniau i gydweithio â Phrifysgol Capital Medical yn Tsieina, a bydd ymweliad yn cael ei gynnal ddiwedd mis Medi. Mae’r Coleg yn bwriadu ymweld â Leuven ym mis Tachwedd, i symud ymlaen â phrosiectau ymchwil ac addysgu cydweithredol. Mae prosiectau ymchwil cydweithredol ag Oman yn mynd rhagddynt, gydag ymweliad pellach wedi’i drefnu ar gyfer mis Tachwedd.
  • Adroddiad misol a dogfen blaengynllunio’r Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata. Roedd yn nodi’r cysylltiadau cyfredol â’r cyfryngau a’r ymgyrchoedd yn y cyfryngau.
  • Adroddiad am weithgareddau Rhyngwladol ac Ewropeaidd.