Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 14 Medi 2015

14 Medi 2015
  • Cafodd y Bwrdd bapur ar arian addysg uwch a phapur ar newidiadau rheoleiddio ym maes addysg uwch. Roeddent yn tynnu sylw at rai o’r problemau posibl yn sgîl newidiadau rheoleiddio tebygol yn Lloegr, a’r effeithiau posibl ar Gymru.
  • Nodwyd bod y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn cael ei dorri ar gyfer myfyrwyr o Loegr, ond nid ar gyfer y rheini o Gymru, ac roedd y Brifysgol yn adolygu’r anghydbwysedd hwn rhwng grŵp penodol o fyfyrwyr.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Roedd yr adroddiad yn nodi y cyflwynwyd newidiadau strategol a gweithredol sylweddol yn llwyddiannus ar gyfer cadarnhau a chlirio yn y Coleg ar gyfer mis Awst 2015. Yn wahanol i’r gorffennol, galluogwyd presenoldeb canolog cryfach gan systemau TG newydd a data gwybodaeth busnes. Roedd hyn yn galluogi tîm y Coleg a’r Ysgolion i reoli llawer mwy ar gynigion a wnaed i ymgeiswyr, er mwyn recriwtio’r myfyrwyr cryfaf posibl ar draws y Coleg, gwarchod proffiliau tariff Ysgolion, ac yn y pen draw – gobeithio – gwella perfformiad yn y tablau cynghrair. Roedd y papur hefyd yn nodi’r newidiadau staffio a ganlyn: dechreuodd Matthew Williamson fel Cofrestrydd Coleg ar 1 Awst; dechreuodd yr Athro Stuart Allan fel Pennaeth yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol ar 1 Awst am gyfnod o bum mlynedd; dechreuodd yr Athro Gillian Bristow fel Deon y Coleg ar gyfer Ymchwil ar 1 Awst 2015 am gyfnod o dair blynedd; ac ailbenodwyd yr Athro Martin Jephcote yn Ddeon y Coleg ar gyfer Addysg.
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Roedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am geisiadau ymchwil y Coleg a’i ddyfarniadau ar gyfer 2014/15. Roedd yn nodi bod y ddau wedi codi cryn dipyn ers y flwyddyn flaenorol gyda 126% o’r darged wedi’i gyflawni. Goruchwyliodd y Coleg gyfnod cadarnhau a chlirio llwyddiannus ym mis Awst, gyda chefnogaeth yr adnoddau adrodd Gwybodaeth Busnes newydd.  90% yw sgôr NSS y Coleg ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr, gyda phedair o’r saith Ysgol yn bodloni neu’n rhagori ar y dangosyddion perfformiad allweddol, a dim un Ysgol islaw 85%.
  • Adroddiad Misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd. Rhoddodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau NSS a’r cynnydd a wnaed, ond nodwyd bod amrywiad sylweddol yn aml o ran perfformiad mewn Ysgolion a rhaglenni astudio.  Dewiswyd pum tîm dylunio i symud ymlaen i gam dau y gystadleuaeth dylunio ar gyfer Canolfan y Myfyrwyr.  Bydd cynigion dylunio’n cael eu hystyried gan banel o dan gadeiryddiaeth yr Is-Ganghellor ddiwedd mis Medi. Rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd i’r Cyngor ym mis Rhagfyr, a chaiff y busnes llawn ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn academaidd.  Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf hefyd am waith adnewyddu’r darlithfeydd a’r cynlluniau wrth gefn a ddatblygwyd i liniaru unrhyw oedi o ran cwblhau’r gwaith.