Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Graddio 2015: Dathlu llwyddiant myfyrwyr

17 Gorffennaf 2015

Gwelodd heddiw ddiwedd ein dathliadau Graddio 2015. Mae’r Wythnos Graddio yn sicr yn uchafbwynt yn y flwyddyn academaidd. Mae’n gyfle i gydnabod yr holl ymdrech a’r ymrwymiad gan fyfyrwyr a staff – a’u teuluoedd – gyda’r canlyniad fod pob un graddedig yn cael y cyfle i groesi’r llwyfan.

Mae’n hawdd canolbwyntio ar gymaint y mae bywyd prifysgol wedi newid dros y degawdau diwethaf. Eto i gyd, er gwaethaf twf aruthrol yn nifer y myfyrwyr a’r amrywiaeth gynyddol o ddisgwyliadau a osodir arnom gan lywodraethau o bob lliw, mae arwyddocâd Diwrnod Graddio fel defod newid byd ar gyfer myfyrwyr unigol wedi parhau’n gyson. Mae’r ffurfioldeb, y wisg academaidd, yr areithiau, yr enghreifftiau o’r hyn sy’n bosibl y mae ein graddedigion anrhydeddus yn eu darparu, i gyd yn cyfrannu at ei wneud yn ddiwrnod mor arbennig ag y bu erioed.

Nid wyddom eto beth fydd carfan eleni yn mynd ymlaen i’w gyflawni mewn bywyd, na’r cyfleoedd a’r heriau personol a phroffesiynol y byddant yn eu hwynebu ar hyd y ffordd. Fodd bynnag, beth bynnag maent yn mynd ymlaen i’w wneud, yr wyf yn gobeithio y byddant yn trysori eu hatgofion o’u hamser yng Nghaerdydd a lledaenu’r gair … mae hwn yn lle gwych i astudio.