Skip to main content

Y Ffordd Ymlaen

Y Ffordd Ymlaen: Gwneud iddo Ddigwydd

1 Mai 2015

Yr wythnos diwethaf bu i mi hwyluso fy ail sesiwn o Y Ffordd Ymlaen: Gwneud iddo Ddigwydd. Unwaith eto, roedd yn sesiwn a fynychwyd yn dda gyda staff brwdfrydig ac ymgysylltiol ar draws y Brifysgol. Cyfarfûm â staff na fyddwn fel arfer yn cwrdd â nhw, dysgu rhai pethau am y Brifysgol nad oeddwn yn ei wybod (yn bennaf yn dda!) a chlywed rhai syniadau gwych.

Un syniad y gobeithiaf y bydd yn cael rhywfaint o dderbyniad yw’r gronfa ‘buddsoddi i arbed’ ar gyfer y gwasanaethau proffesiynol, a fyddai’n ariannu gweithredu arloesiadau a allai arwain at fwy o effeithlonrwydd. Soniais am hyn ym Mwrdd Gweithredol y Brifysgol ac fe’i derbyniwyd yn dda, er gydag ehangu’r pwyslais i ‘buddsoddi i ennill’ ar gyfer y rhannau hynny o wasanaethau proffesiynol sydd â’r potensial i gynhyrchu refeniw allanol. Waeth beth fo’i enw mae’n syniad gwych. Diolch i bawb a oedd yn bresennol am eich syniadau ac am gyfrannu at ddigwyddiad pleserus iawn.