Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 27 Ebrill 2015

27 Ebrill 2015
  • Nododd yr Athro Boyne, Dirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, iddo arwain gweithdy Y Ffordd Ymlaen: Gwneud iddo Ddigwydd yn ddiweddar. Cafwyd ymgysylltu da yno a chynigiwyd llu o syniadau mewn digwyddiad a ddenodd gynulleidfa helaeth sef, yn bennaf, staff o’r Gwasanaethau Proffesiynol. Nododd ef un syniad a oedd wedi’i daro’n arbennig ynglŷn â’r potensial i sefydlu cronfa ‘buddsoddi i arbed’ lle y gellid ariannu syniadau ynghylch arloesi a allai esgor ar arbedion pellach. Cytunwyd bod hwnnw’n syniad da ond bod angen ychydig bach o newid yn y pwyslais ynddo ac y gellid ei frandio’n ‘arbed i ennill’.
  • Rhoes Ms Dowden y newyddion diweddaraf i’r Bwrdd am ddigwyddiad llwyddiannus iawn lle yr adolygodd Tîm Arwain y Gwasanaethau Proffesiynol ddrafft o Gynlluniau Gweithredu y Coleg ar gyfer 2015/16 a thrafod sut y gall y Gwasanaethau Proffesiynol corfforaethol helpu i sicrhau y caiff y cynlluniau hynny eu cyflawni. Fe eir ati’n awr i ddatblygu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer y Gwasanaethau Proffesiynol.
  • Nododd yr Athro Price, y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd, i gyfarfodydd Addysg Neuadd-y-Dref fod yn llwyddiant mawr. Yr oedd dros 600 o’r staff wedi cofrestru a chawsai un o’r sesiynau ei recordio. Cyn hir bydd hi ar gael i’w gweld ar-lein gan y staff na allent fod yno ar y pryd.
  • Cafodd y Bwrdd bapur a amlinellai ymateb y Brifysgol i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r rheoliadau yn Neddf Addysg Uwch (Cymru).

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Nododd yr adroddiad fod y Coleg wedi llunio rhestr fer o’r ceisiadau i’r Gronfa Isadeiledd Ymchwil (yr RIF). Cawsai Diwrnod Agored i’r ymgeiswyr a hoffai ymuno â’r Academi Meddalwedd newydd ei gynnal ar 15 Ebrill, a daethai 20 o ddeiliaid cynigion iddo.
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Meddygol a Gwyddorau Bywyd. Nodwyd bod tîm Swyddfa’r Coleg wedi symud o Dŷ Ceredigion i Bencadlys newydd Swyddfa’r Coleg ym Mharc Mynydd Bychan. Mae adolygiadau’r Coleg o ôl-raddedigion a addysgir ac ôl-raddedigion ymchwil ar lefel y Coleg yn parhau. Nodwyd hefyd fod yr Athro Petroc Sumner wedi’i benodi’n Bennaeth newydd ar yr Ysgol Seicoleg ac y bydd yn olynu’r Athro Ed Wilding ym mis Awst, a bod yr Athro Jim Murray wedi’i benodi’n Bennaeth Ysgol y Biowyddorau ac y bydd yn olynu’r Athro Ole Peterson ym mis Mai.
  • Y Newyddion Diweddaraf am y System Arloesi. Nododd yr adroddiad fod Grŵp Llywio’r System Arloesi wedi cael y drafft o’r adroddiad ar ddichonoldeb ar gyfer adeiladau System Arloesi Heol  Maendy.
  • Yr Adroddiad Misol ar Weithgarwch Ymchwil ac Arloesi. Ynddo, cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am y dyfarniadau ymchwil a gafwyd ac am y ceisiadau a gyflwynwyd yn ystod wyth mis cyntaf y flwyddyn ariannol, sef hyd at 31 Mawrth 2015. Er nad yw’r canlyniadau ar yr un lefel drawiadol â chyfanswm y dyfarniadau a gafwyd yn ystod y mis blaenorol, parhau y mae’r duedd gadarnhaol gyffredinol a welwyd yn ystod chwarter cyntaf 2015.