Taith gerdded o amgylch cymuned Grangetown
10 Ebrill 2015Yn ddiweddar trefnodd un o’n pum Prosiect Ymgysylltu Blaenllaw, y prosiect Porth Cymunedol, ddigwyddiad grŵp lleol, taith gerdded o amgylch Grangetown, a ddilynwyd wedi hynny gan gyfarfod cymunedol. Mynychodd Yr Athro Kevin Morgan, o’r Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth a Deon Ymgysylltu y Brifysgol.
Cynhaliwyd y daith gerdded ar 9 Ebrill, ac roedd trigolion lleol o Grangetown yn cynnwys cynrychiolwyr o Grange Gardens Pavilion Action Group (GGPAG), Bwyd Caerdydd, Cyngor Caerdydd, Cymunedau yn Gyntaf BRG, a Gwirfoddoli Myfyrwyr. O’r Brifysgol, ymunwyd â Kevin gan Yr Athro Paul Milbourne, Pennaeth yr Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth, yr Athro Mike Bruford, o Ysgol y Biowyddorau, Fiona Wylie, Swyddog Arloesi ac Ymgysylltu yn y Biowyddorau, a Mhairi McVicar, arweinydd prosiect y prosiect Porth Cymunedol.
Nod craidd y daith oedd cael gwybod a allem ymchwilio i ffyrdd o gydweithio gyda thrigolion a rhanddeiliaid lleol i ysbrydoli gweithredu ac adeiladu ar nifer o syniadau cyffrous rydym wedi eu derbyn ar gyfer prosiectau newydd, fel ‘gwneud y gorau o fannau gwyrdd lleol’,’dod â chefn gwlad i’r ddinas’ a ‘chreu mynediad i fwyd fforddiadwy’. Y bwriad yw dod â’r syniadau hyn yn fyw drwy baru gyda chymuned Grangetown i archwilio eu diddordebau a’u hanghenion, a chyfuno’r sgiliau, yr arbenigedd ac adnoddau ar draws y Brifysgol gydag uchelgais o gefnogi prosiectau a gychwynnir gan y gymuned.
Parhaodd y daith gerdded am awr, a dechreuodd o Bafiliwn Grange Gardens Bowls. Roedd sgyrsiau ar hyd y ffordd yn cynnwys sut mae’r prosiect Porth Cymunedol wedi bod yn gweithio gyda’r GGPAG, a fyddai’n hoffi trawsnewid y pafiliwn a’r ardal werdd i mewn i gaffi sy’n hybu bwyta’n iach a byw drwy dyfu, paratoi, addysgu ynghylch, a bwyta bwyd iach. Cynigiodd Diane Bennett, preswylydd, ddosbarthiadau coginio ar gyfer ystod eang o drigolion. Cyflwynodd Inge Hanson y grŵp i ymdrechion canolog Cyfeillion Gerddi Pentre wrth drosi parc cymdogaeth nad oedd yn cael ei werthfawrogi i brosiect garddio wedi ei arwain gan gymuned fywiog. Lleisiodd Cymunedau yn Gyntaf BRG gefnogaeth i bartneriaethau ar draws cymunedau Grangetown. Cafodd diddordeb preswylwyr mewn cnydau treftadaeth eu cyfatebu gan ddiddordebau ymchwil gan yr Athro Bruford.
Dychwelodd y grŵp i’r pafiliwn ar gyfer cinio a thrafodaeth a chyflwyniad gan yr Athro Milbourne. Mae’r grŵp yn awr yn ffurfio rhwydwaith i ddatblygu ar y syniadau a’r cwestiynau a godwyd yn y sesiwn. Byddai’r Porth Cymunedol yn falch iawn o glywed gan unrhyw un a allai gefnogi neu ysbrydoli trigolion Grangetown wrth ddatblygu eu syniadau ar gyfer tyfu a hyrwyddo bwyd iach. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag arweinydd y prosiect Porth Cymunedol, Mhairi McVicar, neu’r rheolwr prosiect Rosie Cripps, yn Communitygateway@caerdydd.ac.uk, neu dilynwch y Porth Cymunedol @Communitygtwy
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014