Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 15 Ebrill 2015

15 Ebrill 2015
  • Nodwyd bod yr Is-Ganghellor wedi arwain dirprwyaeth UUK i Frwsel yn gynharach yn yr wythnos a’i fod wedi cyfarfod â’r Cyfarwyddwr Cyffredinol dros Rwydweithiau Cyfathrebu, Cynnwys a Thechnoleg a bod hwnnw wedi hybu cyflwyno rhagor o geisiadau o dan raglen ECSEL.
  • Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yr Adolygiad o Fuddsoddi mewn Addysg i Weithwyr Iechyd Proffesiynol a bod Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd wrthi’n coladu’r adborth i ymateb a fyddai’n dod gerbron y Bwrdd.
  • Cafodd y Bwrdd bapur a gynigiai y dylid estyn Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Prifysgol Caerdydd (CUROP). Cytunodd y Bwrdd i gymeradwyo’r cynnig i estyn cynllun CUROP fesul cam dros y pum mlynedd hyd at 2019/20 yn amodol ar werthusiadau blynyddol a hanner-ffordd o’i aliniad strategol parhaus.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad Misol y Prif Ddirprwy Is-Ganghellor. Ynddo, cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch misol y Prif Ddirprwy Is-Ganghellor, gan gynnwys gwaith ynghylch Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Diwrnod Cwrdd-i-Ffwrdd GW4, croesawu ymweliad gan ddau is-ganghellor o Malaya a mynd i ginio Diwrnod Agored i athrawon.
  • Adroddiad ar Weithgareddau Ymgysylltu. Cafwyd ynddo’r wybodaeth ddiweddaraf am bob un o’r prif brosiectau ymgysylltu ac am y gweithgareddau ymgysylltu â llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU. Ynddo hefyd cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a mentrau sydd ar y gweill, gan gynnwys yr Eisteddfod a’r Prosiect Partneriaeth Ysgolion.
  • Adroddiad ar Weithgareddau Rhyngwladol. Cafwyd ynddo’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch ynghylch datblygiadau gyda KU Leuven, Tsieina ac India ac am ymweliad gan y Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop â Brwsel, fel rhan o ymweliad gan Grŵp Russell.
  • Adroddiad Misol y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata. Nodai’r adroddiad fod Blas i’r staff bellach yn mynd allan yn wythnosol. Mae’r Tîm Cyfathrebu Mewnol wedi cychwyn ar adolygiad mawr o’r cyfathrebu mewnol ledled y Brifysgol. Rhoes yr adroddiad hefyd y wybodaeth ddiweddaraf am gysylltiadau â’r cyfryngau ac ymgyrchoedd yn y cyfryngau yn ogystal â datblygiadau o ran materion cyhoeddus.
  • Y Newyddion Diweddaraf am Brosiectau Ystadau.