Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

2 Mawrth 2015

Un o feysydd fy nghyfrifoldeb fel y Prif Ddirprwy Is-Ganghellor yw cydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae’n faes rwy’n arbennig o falch o’i hyrwyddo . Mae gan Brifysgol Caerdydd record gref o hybu cydraddoldeb ac un a ddechreuodd ymhell cyn i mi gyrraedd. Mae’n siŵr bod llawer ohonoch chi’n gwybod i Brifysgol Caerdydd (Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy bryd hynny) fynd ati ym 1904 i benodi Millicent McKenzie yn fenyw gyntaf i fod yn athro prifysgol ym Mhrydain. O gofio’r traddodiad maith hwnnw, hoffwn dynnu’ch sylw at Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, digwyddiad byd-eang sy’n dod â menywod a dynion ynghyd i fawrygu cydraddoldeb ac i drafod y problemau cydraddoldeb sy’n effeithio ar bob un ohonon ni. Eleni, bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol mis Mawrth i fawrygu effaith cyfle cyfartal ar ein sefydliad ni ac ar gymdeithas yn gyffredinol. Cewch weld yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill ar y fewnrwyd. Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at gynnal digwyddiad ar 26 Mawrth pryd y bydd y Farwnes Jenny Randerson yn ymuno â ni i sôn am fenywod a chydraddoldeb yn economi Cymru.

Gobeithio yr ymunwch chi â mi a llawer o’m cydweithwyr yn ystod mis Mawrth i helpu i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.