
- Rhoes y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd y newyddion diweddaraf i’r Bwrdd am ganlyniadau etholiad Undeb y Myfyrwyr yn ddiweddar. Bellach, cawsai tîm swyddogion etholedig Undeb y Myfyrwyr ei gyhoeddi ar gyfer 2015/16. Bydd 86% ohonynt yn fenywod a 14% yn wrywod, sef cydbwysedd union groes i gydbwysedd y rhywiau yn y flwyddyn gyfredol. Claire Blakeway sydd wedi’i hethol yn Llywydd.
- Cafodd y Bwrdd yr achos busnes o blaid cynnig i’r Brifysgol fod yn bartner i Gyngor Caerdydd mewn cais i ailddatblygu’r Hen Lyfrgell yng nghanol y ddinas. Os gwnaiff y cais lwyddo, daw’r Hen Lyfrgell yn gartref i ofod diwylliannol, addysgol a chymdeithasol Cymraeg yn ogystal ag i amgueddfa Stori Caerdydd. Mae’r cynnig yn gyfle i weithio ymhellach gyda Chyngor Caerdydd ac yn rhoi i’r Brifysgol safle yng nghanol y ddinas lle y gall hi ymgysylltu â’r cyhoedd: byddai gofod addysgu a chyfarfod ar agor gyda’r hwyr ac ar benwythnosau, ac yr oedd hi’n bwysig sicrhau brandio’r safle’n briodol. Cytunodd y Bwrdd i’r Brifysgol fod yn bartner creiddiol am gyfnod cychwynnol o dair blynedd cyhyd â bod Llywodraeth Cymru’n ariannu’r cynnig.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn
- Adroddiad Misol y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata. Nododd yr adroddiad ymgyrchoedd i gysylltu â’r cyfryngau, megis y sylw a gafodd astudiaeth yr Athro Peter Elwood o Garfan Caerffili ar dudalen blaen y Wall Street Journal, cyhoeddi mai’r Athro Sally Holland yw’r Comisiynydd Plant newydd yng Nghymru, a’r sylw a sicrhawyd yn y cyfryngau i ymweliad Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol i ddathlu hanner canrif o addysg therapi galwedigaethol yng Nghymru. Yr oedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau ymylol a stondinau arddangos yng nghynadleddau pleidiau gwleidyddol Cymru.
- Y Newyddion Diweddaraf am y Prosiectau Ystadau