Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 2 Mawrth 2015

2 Mawrth 2015
From left to right: Professor Patricia Price, Claire Sanders, Professor Hywel Thomas, Professor Dylan Jones, Professor Elizabeth Treasure, Professor Colin Riordan, Jayne Dowden, Professor George Boyne, Mike Davies and Professor Karen Holford.
From left to right: Professor Patricia Price, Claire Sanders, Professor Hywel Thomas, Professor Dylan Jones, Professor Elizabeth Treasure, Professor Colin Riordan, Jayne Dowden, Professor George Boyne, Mike Davies and Professor Karen Holford.
  • Rhoes y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd y newyddion diweddaraf i’r Bwrdd am ganlyniadau etholiad Undeb y Myfyrwyr yn ddiweddar. Bellach, cawsai tîm swyddogion etholedig Undeb y Myfyrwyr ei gyhoeddi ar gyfer 2015/16. Bydd 86% ohonynt yn fenywod a 14% yn wrywod, sef cydbwysedd union groes i gydbwysedd y rhywiau yn y flwyddyn gyfredol. Claire Blakeway sydd wedi’i hethol yn Llywydd.
  • Cafodd y Bwrdd yr achos busnes o blaid cynnig i’r Brifysgol fod yn bartner i Gyngor Caerdydd mewn cais i ailddatblygu’r Hen Lyfrgell yng nghanol y ddinas. Os gwnaiff y cais lwyddo, daw’r Hen Lyfrgell yn gartref i ofod diwylliannol, addysgol a chymdeithasol Cymraeg yn ogystal ag i amgueddfa Stori Caerdydd. Mae’r cynnig yn gyfle i weithio ymhellach gyda Chyngor Caerdydd ac yn rhoi i’r Brifysgol safle yng nghanol y ddinas lle y gall hi ymgysylltu â’r cyhoedd: byddai gofod addysgu a chyfarfod ar agor gyda’r hwyr ac ar benwythnosau, ac yr oedd hi’n bwysig sicrhau brandio’r safle’n briodol. Cytunodd y Bwrdd i’r Brifysgol fod yn bartner creiddiol am gyfnod cychwynnol o dair blynedd cyhyd â bod Llywodraeth Cymru’n ariannu’r cynnig.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn

  • Adroddiad Misol y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata. Nododd yr adroddiad ymgyrchoedd i gysylltu â’r cyfryngau, megis y sylw a gafodd astudiaeth yr Athro Peter Elwood o Garfan Caerffili ar dudalen blaen y Wall Street Journal, cyhoeddi mai’r Athro Sally Holland yw’r Comisiynydd Plant newydd yng Nghymru, a’r sylw a sicrhawyd yn y cyfryngau i ymweliad Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol i ddathlu hanner canrif o addysg therapi galwedigaethol yng Nghymru. Yr oedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau ymylol a stondinau arddangos yng nghynadleddau pleidiau gwleidyddol Cymru.
  • Y Newyddion Diweddaraf am y Prosiectau Ystadau