Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Trawsnewid dysgu ac addysgu yng Nghaerdydd : cymerwch ran!

2 Mawrth 2015

Heddiw, rwyf wedi lansio galwad agored i’r gymuned academaidd am ddatganiadau o ddiddordeb mewn cyfrannu at bortffolio gwerth miliynau o bunnoedd o waith rwy’n ei arwain i drawsnewid profiad dysgu ac addysg y myfyrwyr a’r staff ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’r Portffolio Newid Addysg yn cynnwys pedwar prif Raglen, pob un yn arwain cyfres o brosiectau:

  • Ymgysylltu Academaidd, a fydd yn canolbwyntio ar gefnogi academyddion i gyflawni rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu trwy brosiectau megis sefydlu Canolfan Addysg Arloesi ac adolygiad o’r fframwaith DPP ar gyfer dysgu ac addysgu;
  • Ymgysylltu â Myfyrwyr, a fydd yn canolbwyntio ar gefnogi myfyrwyr i gyflawni eu potensial dysgu a gwneud y mwyaf o’u rhagolygon cyflogadwyedd. Bydd prosiectau a gynlluniwyd ar hyn o bryd yn edrych ar asesu ac adborth, gwerthuso modiwlau, dysgu gweithredol, dysgu byd-eang a symudol a llwybrau dysgu personol;
  • Yr Amgylchedd Dysgu, yn canolbwyntio ar wneud yr amgylchedd dysgu ac addysgu’n hygyrch a chynhwysol drwy waith i wella’r amgylchedd dysgu rhithwir ar hyn o bryd a chefnogi dysgu digidol, gan gynnwys Learn Plus ac amserlennu prosiectau sydd eisoes ar y gweill;
  • Cylch Bywyd Myfyrwyr a Rhaglenni, yn canolbwyntio ar wella sut rydym yn casglu data ac yn defnyddio data rhaglenni a myfyrwyr er mwyn deall ac ymateb i anghenion myfyrwyr yn well. Bydd prosiectau allweddol yma yn cynnwys cofnod craidd y myfyriwr, monitro presenoldeb, derbyniadau, adroddiadau SIMS a dysgu dadansoddol.

 

Mae’n hanfodol bod y Grwpiau Llywio hyn – a’r prosiectau oddi mewn iddynt – yn cynnwys cynrychiolaeth academaidd gref gan gydweithwyr sydd gyda’r angerdd a’r egni i lunio datblygiad parhaus y Portffolio ac i hyrwyddo ei waith ar draws y gymuned academaidd.

Ein nod yn awr yw sefydlu cronfa o gydweithwyr brwdfrydig a llawn cymhelliant sy’n awyddus i gyfrannu at y gwaith cyffrous hwn, boed hynny trwy gymryd rhan mewn un o’r pedwar Grŵp Llywio Rhaglen neu drwy gymryd rhan mewn prosiect penodol. Os oes gennych ddiddordeb ac yr hoffech gael gwybod mwy siaradwch â Rheolwr eich Ysgol. Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw 13 o Fawrth.