Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 23 Chwefror 2015

23 Chwefror 2015
From left to right: Professor Patricia Price, Claire Sanders, Professor Hywel Thomas, Professor Dylan Jones, Professor Elizabeth Treasure, Professor Colin Riordan, Jayne Dowden, Professor George Boyne, Mike Davies and Professor Karen Holford.
From left to right: Professor Patricia Price, Claire Sanders, Professor Hywel Thomas, Professor Dylan Jones, Professor Elizabeth Treasure, Professor Colin Riordan, Jayne Dowden, Professor George Boyne, Mike Davies and Professor Karen Holford.
  • Cafodd y Bwrdd fersiwn diwygiedig o’r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf. Câi’r papur hwnnw’n awr ei gyflwyno i’r Cyngor.
  • Cafodd y Bwrdd ddrafft o ymateb Prifysgol Caerdydd i Arolwg Diamond ynghylch ffioedd ac ariannu addysg uwch yng Nghymru.
  • Cafodd y Bwrdd y newyddion diweddaraf am yr amrywiol bortffolios newid a’u statws cyfredol.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Ynddo, cafwyd y newyddion diweddaraf am ymchwil, addysg, materion rhyngwladol, ymgysylltu a chyllid. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith fod PHYSX wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau dyfarnu tri Grant Cyfnerthu iddi gan yr ERC – camp ryfeddol o ystyried i bob un o’u ceisiadau fod yn llwyddiannus ac mai cyfartaledd y gyfradd lwyddo yw rhyw 10%.
  • Adroddiad Misol Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd. Nododd yr adroddiad y cynnydd ynghylch datblygu ystadau yn y Coleg. Tynnodd sylw at y ffaith hefyd fod adroddiad ARE ar gyfer ei Ysgolion wedi’i gyflwyno i’r Coleg ac y câi hwnnw’n awr ei adolygu.
  • Y Newyddion Diweddaraf am y System Arloesi. Cafodd y Bwrdd y newyddion diweddaraf gan Grŵp Llywio’r System Arloesi a’r Diwrnod Cwrdd-i-Ffwrdd ynglŷn â’r system honno. Nodwyd bod yr Adran Ystadau wedi penodi Gleeds i reoli prosiect yr Astudiaeth Dichonoldeb o ddatblygiadau’r System Arloesi ar Barc Maendy.
  • Yr Adroddiad Misol ar Weithgarwch Ymchwil ac Arloesi. Cafodd y Bwrdd y newyddion diweddaraf am feddalwedd Converis a fydd yn darparu rheolaeth ar ddata a gwybodaeth ymchwil. Cafwyd y newyddion diweddaraf hefyd am Vision 2020 a’r dyfarniadau a’r ceisiadau ymchwil hyd yn hyn.