Skip to main content

Briffiadau

Caerdydd a Tsienia

30 Ionawr 2015
Grunge Chinese flag on rough edged wall background
Grunge Chinese flag on rough edged wall background

Fel sydd wedi’i nodi yn Y Ffordd Ymlaen 2012-17, nod y Brifysgol yw bod yn gyson ymhlith y 100 prifysgol orau yn y byd. Ochr yn ochr â hynny, bydd Prifysgol Caerdydd yn cael ei chydnabod fel prifysgol ryngwladol sydd o fudd i Gymru.   Mae partneriaethau yn hanfodol er mwyn datblygu ein gweithgareddau a’n henw da ar draws y byd. Bydd gwella proffil Caerdydd a’n hamlygrwydd byd-eang yn helpu i ddenu staff a myfyrwyr o’r radd flaenaf o bob cwr o’r byd. Bydd hefyd yn helpu’r Brifysgol i gyflawni ei nod cyffredinol, sef dychwelyd i’r 100 uchaf ar restr QS o brifysgolion gorau’r byd.*   Mae gan Gaerdydd gysylltiadau academaidd hirsefydlog â Tsieina, sy’n bartner strategol pwysig, ac rydym yn falch o’n cysylltiadau cynyddol:

  • Tsieina yw marchnad fwyaf Prifysgol Caerdydd o ran recriwtio myfyrwyr, a bydd yn parhau i fod felly dros y blynyddoedd nesaf.
  • O gymharu â gwledydd eraill, o Tsieina y daw mwyafrif llethol y myfyrwyr rhyngwladol sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.
  • O Tsieina y daw bron i draean o’r myfyrwyr rhyngwladol sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.
  • Mae 229 o is-raddedigion Tsieineaidd a 949 o ôl-raddedigion Tsieineaidd.
  • Mae dros 100 o staff Tsieineaidd yn gweithio yn y Brifysgol.
  • Ym Mhrifysgol Caerdydd y mae dros 30 y cant o’r holl fyfyrwyr Tsieineaidd sy’n astudio yng Nghymru (HESA 12/13).
  • Mae Prifysgol Caerdydd wedi datblygu nifer cynyddol o gytundebau cyfnewid myfyrwyr: Teithiodd 67 o fyfyrwyr y Brifysgol i Tsieina i astudio yn 2013/14.
  • Mae Tsieina yn prysur ennill ei phlwyf ar y llwyfan ryngwladol ym maes ymchwil. Mae ei system addysg uwchradd ar flaen y gad o ran darparu ar gyfer ymchwil STEM, fel a ddangosir gan ei safle blaenllaw yn sgoriau PISA ar gyfer mathemateg.
  • Mae gan Brifysgol Caerdydd 47 o gysylltiadau academaidd a chytundebau partneriaeth strategol gyda phrifysgolion ar draws Tsieina ar gyfer cydweithio ar ymchwil a chyfnewid myfyriwr.

Mae’r gwaith y mae Prifysgol Caerdydd yn ei wneud gyda Tsieina’n cynhyrchu ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth. Dyma enghreifftiau o sut mae Prifysgol Caerdydd yn adeiladu ac yn cryfhau ei chysylltiadau ymchwil ac addysgu:  

  • Yn ddiweddar, cynyddodd Caerdydd a Xiamen eu hymrwymiad at ymchwil ar y cyd. Gan gytuno ar gronfa ar y cyd i roi gwerth £1.2m o arian partneriaeth, bydd yn rhoi arian cychwynnol ar gyfer cydweithio ar ymchwil a pharatoi prosiectau ar y cyd megis sefydlu Ysgol Ddeintyddiaeth newydd ym Mhrifysgol Xiamen mewn partneriaeth ag Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd.
  • Mae partneriaeth newydd yn cael ei datblygu gyda Phrifysgol Normal Beijing, sef prifysgol fwyaf blaenllaw Tsieina ym maes astudiaethau addysg. Yn rhan o hyn, bydd cyfleuster ymchwil yn cael ei sefydlu yng Nghaerdydd sy’n canolbwyntio ar Iaith a Diwylliant Tsieina, a hwn fydd y cyntaf o’i fath yn y DU.
  • Mae Sefydliad Canser ar y Cyd Prifysgol Caerdydd-Prifysgol Peking, a lansiwyd ym mis Chwefror 2011, yn dod ag arbenigwyr bio-feddygol o’r ddwy brifysgol ynghyd fel bod eu hymchwil yn canolbwyntio ar rai o’r mathau mwyaf ymosodol o ganser.
  • Mae partneriaethau sy’n tyfu gydag Ysbyty Canser Prifysgol Peking a Phrifysgol Capital Medical yn ceisio canfod ffyrdd newydd o ganfod a thrin canser y fron.
  • Daeth y gwaith gyda Phrifysgol Capital Medical yn fuddugol yn y categori Cydweithio Rhyngwladol yng Ngwobrau Addysg Uwch blynyddol y Times yn 2011.
  • Mae Coleg y Gwyddorau Biofeddygol wedi sefydlu rhaglen gyfnewid israddedig gyda Phrifysgol Capital Medical. Drwy’r cynllun hwn, mae myfyrwyr meddygol o brifysgolion Peking a Capital Medical yn dod i Gaerdydd am gyfnod o rhwng pedwar mis a blwyddyn. Mae’r ysgolheigion yn elwa ar hyfforddiant academaidd tra bod Caerdydd yn elwa ar weithio gyda gwyddonwyr a chlinigwyr talentog.
  • Sefydlwyd Canolfan Ymchwil Tsieina-DU ar gyfer Eco-ddinasoedd a Datblygu Cynaliadwy rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Technoleg Hefei ym mis Ionawr 2014. Cafodd y Ganolfan ar y cyd ei sefydlu i archwilio ac ymchwilio i effeithiau trefoli a’i effaith ar newid hinsawdd ar draws y byd.
  • Rheolir sefydliad Confucius Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Xiamen. Mae’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau iaith a rhaglenni ar gyfer oedolion sy’n dysgu. I ddiwallu anghenion pobl fusnes a gweithwyr proffesiynol lleol, mae Sefydliad Confucius yn cynnal cyrsiau byr a sesiynau hyfforddi hefyd.