Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Ei Huchelder, y Dywysoges Frenhinol, yn ymweld i ddathlu 50 mlynedd o therapi galwedigaethol

29 Ionawr 2015

Roeddwn wrth fy modd cael bod yn rhan o ddigwyddiadau heddiw i nodi 50 mlynedd o Therapi Galwedigaethol (OT) ym Mhrifysgol Caerdydd. Archwiliodd y gynhadledd undydd sut y mae addysg OT wedi esblygu, yn ogystal â’r cyfraniad allweddol y mae cyn-fyfyrwyr OT Caerdydd wedi ei wneud i ddatblygiad sylfaen y dystiolaeth glinigol. Roedd yn hyfryd i ymuno â’r Dywysoges Anne yn rhinwedd ei swydd fel Noddwr y Coleg Therapyddion Galwedigaethol, a gyda myfyrwyr a staff y gorffennol a’r presennol, i adnabod a myfyrio ar y cyfraniad hanfodol y mae therapyddion galwedigaethol yn ei chwarae i iechyd a lles. Roeddwn yn arbennig o falch o weld cynifer o gyn-fyfyrwyr yno ac i glywed eu straeon. Mae rhai wedi mynd ymlaen i gynnal swyddi dylanwadol o fewn y proffesiwn; maent i gyd yn dal gafael ar ymrwymiad cryf i ddarparu rhagoriaeth mewn gofal cleifion. Roedd hwn yn un o’r digwyddiadau cryfaf o ran cydweithrediad ag Alumni yr wyf erioed wedi ei fynychu – mae eu teyrngarwch i Gaerdydd a’u proffesiwn yn wirioneddol drawiadol.