Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 19 Ionawr 2015

19 Ionawr 2015
From left to right: Professor Patricia Price, Claire Sanders, Professor Hywel Thomas, Professor Dylan Jones, Professor Elizabeth Treasure, Professor Colin Riordan, Jayne Dowden, Professor George Boyne, Mike Davies and Professor Karen Holford.
From left to right: Professor Patricia Price, Claire Sanders, Professor Hywel Thomas, Professor Dylan Jones, Professor Elizabeth Treasure, Professor Colin Riordan, Jayne Dowden, Professor George Boyne, Mike Davies and Professor Karen Holford.
  • Adolygodd y Bwrdd bapur a amlinellai’r cynnydd o ran datblygu Sefydliadau Ymchwil (URIs) newydd i’r Brifysgol. Yn ei gyfarfod ar 7 Gorffennaf 2014, cymeradwyodd y Bwrdd mewn egwyddor ddatblygu pedwar URI newydd ac adnewyddu’r rhai presennol ar yr amod y cyflawnid cerrig milltir penodedig yn llwyddiannus. Rhoes y papur y wybodaeth ddiweddaraf am yr URIs a’r cynigion ynghylch tri o’r pedwar URI newydd. Fe aiff papur ar y pedwerydd URI, y Sefydliad Arloesi Data, yn ôl i’r Bwrdd yn nes ymlaen. Cytunodd y Bwrdd i symud ymlaen â’r URIs hyn: Imiwnedd Systemau, Systemau Ynni, a Throseddu a Diogelwch. Adnewyddwyd yr URIs presennol, sef y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl, y Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy a Sefydliad Catalysis Caerdydd. Cytunwyd i lansio’r URIs yn ffurfiol yn Llundain a Chaerdydd yn ystod hydref 2015.
  • Cymeradwyodd y Bwrdd gyflwyniad CCAUC i Lywodraeth Cymru/Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, sef yr un a amlinellai arwydd cychwynnol y Brifysgol o brosiectau arfaethedig ar gyfer 2015/16. Y cynlluniau blaenoriaeth a gyflwynir fydd datblygiad o Sefydliadau Ymchwil presennol y Brifysgol a’r rownd nesaf o Sefydliadau Ymchwil newydd y Brifysgol.

 Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad Misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd. Mae’r Brifysgol wedi cael gwybod ymlaen llaw iddi gael cyllid ar gyfer pedwar o’r pum cais i Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer 2015/16. Cânt eu cyhoeddi’n fuan. Mae’r Brifysgol yn gweithio gyda’r Coleg i gytuno ar gyllid ar gyfer pumed cais. Yn ogystal, mae pedwar cais i gynllun ysgoloriaethau ymchwil y Coleg wedi’u cyflwyno erbyn hyn. Nodwyd y bydd y cyfarfod o’r Uwch Staff ar 19 Ionawr yn cynnwys cyflwyniad gan gydweithwyr o FutureLearn ar rôl bosibl MOOCs o ran cynorthwyo’r agenda effaith. Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu dau MOOC arall i’w lansio yn 2015. Caiff Muslims in Britain ei ailredeg ym mis Chwefror a Community Journalism ym mis Mawrth. Erbyn hyn, mae’r broses ARE wedi’i chwblhau ar draws pob Coleg. Caiff y darganfyddiadau allweddol, a’r gweithredoedd a fydd yn deillio ohonynt i’r Colegau a/neu’r Brifysgol, eu hystyried gan y Gweithgor ARE mewn cyfarfod ar 14 Ionawr.
  • Adroddiad Misol y Prif Swyddog Gweithrediadau. Ynddo cafwyd y newyddion diweddaraf gan bob un o’r Adrannau Gwasanaethau Proffesiynol corfforaethol. Delir i roi sylw sylweddol i wella’r systemau a’r prosesau, gan gynnwys: cyflwyno mewnrwyd; gwelliannau systematig i arolygon o fyfyrwyr; gwelliannau i’r gyflogres; a chyflwyno rhagor o swyddogaethau hunanwasanaeth i’r staff. Mae’r angen am wybodaeth fusnes ddibynadwy a chywir, a gwybodaeth reoli, wedi’i gydnabod ar draws y Gwasanaethau Proffesiynol. Delir i weithio i wella diffiniadau o ddata, y strwythur y delir data ynddo, ynghyd ag ansawdd y mewnbynnu a’r adrodd.