Skip to main content

Briffiadau

Caerdydd a’r Bobl sy’n Gadael Gofal

15 Ionawr 2015

Mae Strategaeth Y Ffordd Ymlaen 2012-17 yn amlinellu ymrwymiad Prifysgol Caerdydd at ddenu’r myfyrwyr gorau a’r mwyaf galluog o bob rhan o gymdeithas, gan ganolbwyntio’n benodol ar y grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli.

Mae’r Brifysgol yn sylweddoli bod angen penodol i gynorthwyo myfyrwyr o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli drwy gydol eu cyfnod fel myfyrwyr i wneud yn siŵr eu bod yn llwyddo. Gan barhau i gryfhau’r modd y mae’n cynnig lle i fwy o bobl o Gymru a thu hwnt, mae Prifysgol Caerdydd eisoes wedi ennill ei phlwyf o ran cynnig mwy o gyfleoedd i bobl ifanc sydd wedi bod yn gysylltiedig â maes gofal, a dal gafael arnynt:

  • Pobl sydd wedi gadael gofal yw un o’r grwpiau a dangynrychiolir fwyaf ym maes addysg uwch.
  • Yn 2011, dim ond 7% o’r bobl 19 oed oedd wedi gadael gofal yng Nghymru oedd yn cael addysg uwch amser llawn o gymharu â 43% o’r holl bobl ifanc.
  • Yn 2007, Caerdydd oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill Marc Ansawdd gan elusen Buttle UK sy’n cynorthwyo plant a phobl ifanc. Cafodd y Marc Ansawdd ei roi am y cymorth a roddir i blant o dan ofal a phobl sy’n gadael gofal er mwyn iddynt allu symud ymlaen i addysg uwch.
  • Yn 2014, cafodd gwaith y Brifysgol gyda phobl sy’n gadael gofal statws canmoladwy gan yr elusen.
  • Mae Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn arloesol yn y maes hwn, ac mae 30 o bobl sydd wedi gadael gofal wedi cofrestru yn 2015/16.
  • Mae gan y Brifysgol aelod penodol o staff sy’n brif ddolen gyswllt ar gyfer pobl sy’n gadael gofal; dyma wasanaeth sy’n cynnwys gofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol/cynghorwyr personol hefyd. Mae’r cymorth hwn yn dechrau yn y cam cyflwyno cais ac fe’i cynigir drwy gydol yr amser y mae myfyrwyr gyda ni.
  • Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llety drwy gydol y flwyddyn i fyfyrwyr sydd wedi bod mewn gofal. Ar ben hynny, mae ein cynllun Bwrsariaeth i Bobl sy’n Gadael Gofal yn cynnig cymorth ariannol ychwanegol bob yn dipyn i gynorthwyo gyda chostau sy’n gysylltiedig â dechrau a gadael y brifysgol, gan gynnwys seremonïau graddio, teithio a dillad ar gyfer cyfweliadau.
  • Yn 2012/13, cafodd y cymorth ei gynnig hefyd i bobl ifanc sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd. Gall y myfyrwyr hyn wynebu anawsterau penodol wrth geisio cael gafael ar arian sydd ar gael i fyfyrwyr, gan achosi problem benodol o ran cael mynediad at addysg uwch.

Partneriaeth yw un o hanfodion ein llwyddiant

  • Roedd gan Brifysgol Caerdydd rôl hollbwysig wrth gydweithio â phrifysgolion eraill er mwyn sefydlu Rhwydwaith Gweithgareddau i Bobl sy’n Gadael Gofal a Chymorth i Fyfyrwyr (CLASS) Cymru. Mae’r rhwydwaith yn cwrdd yn rheolaidd er mwyn cydweithio i ddiwallu anghenion plant o dan ofal a phobl sy’n gadael gofal sy’n dechrau addysg bellach ac addysg uwch. Maent yn amlygu meini tramgwydd posibl ac yn rhannu arferion da.
  • Yn 2012, cynorthwyodd staff Prifysgol Caerdydd Rhwydwaith Maethu Cymru wrth ddatblygu pecyn ar gyfer gofalwyr maeth. Diben y pecyn oedd eu cynorthwyo i helpu’r bobl ifanc o dan eu gofal i ddod i benderfyniadau ynglŷn â mynd i’r brifysgol.
  • Ymgymerir â’r holl ymdrechion hyn drwy drafod gyda myfyrwyr y Brifysgol, sydd â llais ar bob lefel.

Gall symud i brifysgol fod yn gam mawr, yn enwedig i’r rhai sy’n gadael gofal. Er mwyn gwneud y cam hwn yn haws, mae cymorth y Brifysgol ar gyfer pobl sy’n gadael gofal a phlant o dan ofal yn cynnwys rhaglen gyswllt sy’n rhoi rhagflas i ddarpar ymgeiswyr o sut beth yw bod yn fyfyriwr:

  • Mae Prosiect Dyfodol Hyderus yn galluogi pobl ifanc 15-19 oed i ddod ynghyd ar gampws i gwrdd â myfyrwyr cyfredol sy’n fentoriaid iddynt. Maent hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o wibdeithiau cymdeithasol, nosweithiau gemau a gweithdai i gynorthwyo astudiaethau a pharatoi ceisiadau ar gyfer colegau, prifysgolion a swyddi.
  • Digwyddiad deuddydd yw Ysgol Haf Dyfodol Hyderus lle mae pobl ifanc yn aros mewn neuadd breswyl. Maent yn cael eu paru â myfyrwyr i gael profiad o bopeth perthnasol gan gynnwys ymgyfarwyddo â’r campws yn ogystal â phrynu bwyd a’i baratoi mewn llety myfyrwyr.

Mae Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr yn sylweddoli pa mor amrywiol yw anghenion myfyrwyr. Felly, ei nod yw lleihau pa bynnag feini tramgwydd a wynebir gan fyfyrwyr yn y cyfnod rhwng cyflwyno cais a graddio. Bydd natur a graddfa’r gefnogaeth yn parhau i ddatblygu er mwyn mynd i’r afael â heriau newydd a’n nod parhaus o gynnig lleoedd mewn addysg uwch i ragor o fyfyrwyr o bob cefndir.

Cewch wybod mwy am Wasanaeth Cefnogi Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn http://www.cardiff.ac.uk/studentsupport/ a http://www.cardiff.ac.uk/advice/careleavers/care-leavers.html. Mae mwy o wybodaeth am ehangu mynediad ar gael yma.

Rhagfyr 2015.