
- Adolygodd y Bwrdd bapur a amlinellai’r cynnydd o ran datblygu Sefydliadau Ymchwil (URIs) newydd i’r Brifysgol. Yn ei gyfarfod ar 7 Gorffennaf 2014, cymeradwyodd y Bwrdd mewn egwyddor ddatblygu pedwar URI newydd ac adnewyddu’r rhai presennol ar yr amod y cyflawnid cerrig milltir penodedig yn llwyddiannus. Rhoes y papur y wybodaeth ddiweddaraf am yr URIs a’r cynigion ynghylch tri o’r pedwar URI newydd. Fe aiff papur ar y pedwerydd URI, y Sefydliad Arloesi Data, yn ôl i’r Bwrdd yn nes ymlaen. Cytunodd y Bwrdd i symud ymlaen â’r URIs hyn: Imiwnedd Systemau, Systemau Ynni, a Throseddu a Diogelwch. Adnewyddwyd yr URIs presennol, sef y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl, y Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy a Sefydliad Catalysis Caerdydd. Cytunwyd i lansio’r URIs yn ffurfiol yn Llundain a Chaerdydd yn ystod hydref 2015.
- Cymeradwyodd y Bwrdd gyflwyniad CCAUC i Lywodraeth Cymru/Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, sef yr un a amlinellai arwydd cychwynnol y Brifysgol o brosiectau arfaethedig ar gyfer 2015/16. Y cynlluniau blaenoriaeth a gyflwynir fydd datblygiad o Sefydliadau Ymchwil presennol y Brifysgol a’r rownd nesaf o Sefydliadau Ymchwil newydd y Brifysgol.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:
- Adroddiad Misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd. Mae’r Brifysgol wedi cael gwybod ymlaen llaw iddi gael cyllid ar gyfer pedwar o’r pum cais i Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer 2015/16. Cânt eu cyhoeddi’n fuan. Mae’r Brifysgol yn gweithio gyda’r Coleg i gytuno ar gyllid ar gyfer pumed cais. Yn ogystal, mae pedwar cais i gynllun ysgoloriaethau ymchwil y Coleg wedi’u cyflwyno erbyn hyn. Nodwyd y bydd y cyfarfod o’r Uwch Staff ar 19 Ionawr yn cynnwys cyflwyniad gan gydweithwyr o FutureLearn ar rôl bosibl MOOCs o ran cynorthwyo’r agenda effaith. Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu dau MOOC arall i’w lansio yn 2015. Caiff Muslims in Britain ei ailredeg ym mis Chwefror a Community Journalism ym mis Mawrth. Erbyn hyn, mae’r broses ARE wedi’i chwblhau ar draws pob Coleg. Caiff y darganfyddiadau allweddol, a’r gweithredoedd a fydd yn deillio ohonynt i’r Colegau a/neu’r Brifysgol, eu hystyried gan y Gweithgor ARE mewn cyfarfod ar 14 Ionawr.
- Adroddiad Misol y Prif Swyddog Gweithrediadau. Ynddo cafwyd y newyddion diweddaraf gan bob un o’r Adrannau Gwasanaethau Proffesiynol corfforaethol. Delir i roi sylw sylweddol i wella’r systemau a’r prosesau, gan gynnwys: cyflwyno mewnrwyd; gwelliannau systematig i arolygon o fyfyrwyr; gwelliannau i’r gyflogres; a chyflwyno rhagor o swyddogaethau hunanwasanaeth i’r staff. Mae’r angen am wybodaeth fusnes ddibynadwy a chywir, a gwybodaeth reoli, wedi’i gydnabod ar draws y Gwasanaethau Proffesiynol. Delir i weithio i wella diffiniadau o ddata, y strwythur y delir data ynddo, ynghyd ag ansawdd y mewnbynnu a’r adrodd.