Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Ehangu mynediad i swyddi graddedigion

14 Ionawr 2015

Cafwyd llawer o drafod ar draws y cyfryngau heddiw o adroddiad a gyhoeddwyd gan High Fliers Research yn awgrymu bod disgwyl i’r nifer o raddedigion sy’n cael eu recriwtio cyrraedd ei lefel uchaf ers mwy na degawd eleni. Mae Y Ffordd Ymlaen yn nodi ein hymrwymiad i baratoi graddedigion hynod gyflogadwy. Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod gennym y ddarpariaeth academaidd gywir, y systemau cymorth a’r cyfleoedd co-gwricwlaidd ar waith i gynnal ac adeiladu ymhellach ar ein llwyddiant presennol yn y maes hwn.

Fe wnaeth yr adroddiad i mi feddwl hefyd am sut gallwn ni alluogi ein myfyrwyr, beth bynnag fo’u cefndir, i elwa ar y farchnad gyflogaeth hon sydd wedi gwella’n ddiweddar. Nid yw ehangu mynediad am recriwtio myfyrwyr yn unig o’r grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae hefyd yn ymwneud â chael yr holl fecanweithiau cymorth ar waith drwy gydol y cylch bywyd myfyrwyr i sicrhau eu bod yn llwyddo ac yn symud ymlaen at swyddi graddedig.

Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn cymryd o ddifrif ym Mhrifysgol Caerdydd. Er enghraifft, mae ein gwaith gyda phobl sy’n gadael gofal, un o’r grwpiau mwyaf heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch, yn cael ei gydnabod yn genedlaethol fel gwaith sy’n arwain y sector. Drwy amrywiaeth o becynnau cymorth, rydym yn ceisio lleihau’r rhwystrau i lwyddiant drwy ddarparu mynediad i staff cymorth penodedig, mentora, cymorth ariannol a llety sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn. Wrth gwrs, mae anghenion pob myfyriwr yn wahanol a bydd ein gwasanaethau myfyrwyr yn parhau i esblygu i gwrdd â’r heriau a chyfleoedd newydd.

Hyd yn oed pan fo rhagolygon cyflogaeth graddedigion yn fwy calonogol, mae angen inni fod yn siŵr bod ein holl raddedigion yn “barod am y dyfodol” a’u bod wedi eu paratoi ar gyfer byd deinamig y gweithle a fydd yn rhoi heriau na allwn ddirnad yn llawn yn 2015 wrth i dwf technoleg ddatblygu mor gyflym. Cefnogi pobl sy’n gadael gofal yw un agwedd ar y gwaith yr ydym yn ei wneud yn y maes hwn; gallwch ddarganfod mwy yma.