Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 15 Rhagfyr 2014

15 Rhagfyr 2014
  • Hysbyswyd y Bwrdd fod dwy o fentrau’r Brifysgol wedi ennill gwobrau yng Ngwobrau Arloesi MediWales yn ddiweddar, sef Canolfan Arloesi Clwyfau Cymru ac Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru (WIMAT).
  • Cyflwynwyd i’r Bwrdd bapur a amlinellai gynllun gweithredu a nodai gamau penodol y gellid eu cymryd yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol i wella perfformiad yr Ysgolion yn erbyn y KPI ‘o leiaf 80% o fodlonrwydd yng nghategori asesu ac adborth yr NSS yn achos pob Ysgol’. Cawsai’r cynllun gweithredu ei lunio ar gais yr Is-Ganghellor yn niwrnod cwrdd-i-ffwrdd y Bwrdd yn ddiweddar. Cynigiwyd amryw o gamau tymor-byr i’r Bwrdd, y Brifysgol gyfan, y Colegau, yr Ysgolion a’r staff, ac achos busnes dros brosiect strategol tymor-hwy ar Asesu ac Adborth i ddilyn y Flwyddyn Newydd fel rhan o’r rhaglen gynlluniedig o waith a ddygir ymlaen drwy’r Portffolio Newid Addysg. Cytunwyd ar y cynllun a hefyd i ryddhau cyllid i sefydlu prosiect i gyflwyno Grademark ledled y Brifysgol, gan gynnwys darpariaeth i roi sylw i faterion technegol ac anghenion hyfforddi.
  • Cafodd y Bwrdd bapur a amlinellai argymhellion allweddol y Grŵp Ffioedd Dysgu mewn perthynas â ffioedd a darparu ysgoloriaethau/bwrsariaethau 2015/16. Cytunwyd i gymeradwyo lefelau isafswm ffioedd 2015/16 i bob myfyriwr ôl-raddedig o’r DU/UE a addysgir yn amser-llawn, sef £5,850 (y Celfyddydau/y Dyniaethau) a £7,560 (Gwyddoniaeth) a phennu mai £3,780 (Cartref/UE) a £4,800 (Rhyngwladol) fydd lefelau isafswm ffi 2015/16 ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig rhan-amser a addysgir o bell (60 credyd).
  • Cafodd y Bwrdd bapur a gynigiai sefydlu Rhaglen Cymraeg i Bawb ledled y Brifysgol i roi cyfle i fyfyrwyr sy’n cofrestru ar raglenni gradd y Brifysgol i ddysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim. Nodwyd y byddai’r rhaglen yn cydategu’r ddarpariaeth o ran dysgu ieithoedd tramor modern a’i bod hi’n unol ag ymrwymiadau’r Brifysgol ynghylch cefnogi’r Cynllun Iaith Gymraeg, ac y byddai’n adeiladu ar y ddarpariaeth bresennol a ddatblygwyd drwy Ysgol y Gymraeg a’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion. Cytunwyd i gymeradwyo sefydlu’r Rhaglen Cymraeg i Bawb. 

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad Misol Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
  • Adroddiad Misol Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
  • Adroddiad Misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd
  • Y Newyddion Diweddaraf am y System Arloesi