Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 8 Rhagfyr 2014
8 Rhagfyr 2014- Cafodd y Bwrdd bapur ar y ddeddfwriaeth newydd ynghylch Rhannu Absenoldeb Rhiant. Nodwyd i’r Rheoliadau ynghylch Rhannu Absenoldeb Rhiant ddod i rym ar 1 Rhagfyr 2014 a’u bod yn gymwys i famau/tadau (neu eu partneriaid) babanod y disgwylir iddynt gyrraedd ar neu ar ôl 5 Ebrill 2015 neu a gyplysir neu a osodir i’w mabwysiadu ar ôl y dyddiad hwnnw. Dywed y ddeddfwriaeth y byddai gan staff cymwys, o 5 Ebrill 2015 ymlaen, yr hawl i rannu hyd at 52 o wythnosau o absenoldeb i ofalu am eu plentyn (llai’r cyfnod y mae’r fam wedi’i dreulio ar absenoldeb mamolaeth) a rhannu 37 wythnos o dâl y rhieni. Cytunodd y Bwrdd i gymeradwyo tâl statudol o dan y Rheoliadau ynghylch Rhannu Absenoldeb Rhiant. Cytunwyd hefyd i wneud gwaith pellach i werthuso cynllun gwell a fyddai, o bosibl, yn ddrych i’r ddarpariaeth yn y Cynllun Mamolaeth ac yn unol â’r gwaith a wneir gydag Athena SWAN.
- Cafodd y Bwrdd y Fframwaith Llywodraethu diwygiedig. Cymeradwyodd ef y diwygiadau sy’n cymryd i ystyriaeth y newidiadau a awgrymwyd ynghynt gan y Bwrdd yn 2013/14 o ran addasu telerau swydd deiliaid uwch-swyddi a sicrhau bod y broses o benodi Dirprwy Is-Gangellorion thematig yn gyson â phroses benodi Dirprwy Is-Gangellorion/Penaethiaid Colegau.
- Cafodd a chymeradwyodd y Bwrdd ddrafft o ymateb y Brifysgol i alwad Llywodraeth Cymru am dystiolaeth i’w hadolygiad o’r buddsoddi mewn addysg broffesiynol ym maes iechyd. Mae’r Adolygiad yn amlinellu amryw o faterion penodol sydd i gael sylw:
- Natur y buddsoddiad presennol mewn addysg gweithwyr iechyd proffesiynol – yr hyn yr ydym yn ei gyllido, ac a yw hynny’n darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar weithlu gofal iechyd Cymru;
- Yr enillion ar y buddsoddiad hwnnw;
- Y trefniadau presennol ar gyfer cynllunio yn y tymor canolig a’r tymor hwy yn y GIG ac a yw’r rhain yn hwyluso gweithio ar sail amlbroffesiynol;
- I ba raddau y byddai cymhellion a/neu amodau yn cynorthwyo addysg, hyfforddiant a chadw gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru;
- Y modd y mae anghenion a safonau gofal iechyd yn cynorthwyo cynllunio, dylunio rolau, a chomisiynu addysg
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:
- Adroddiad ar Weithgareddau Ymgysylltu
- Adroddiad ar Weithgareddau Rhyngwladol
- Adroddiad Misol ar Weithgareddau Ymchwil ac Arloesi
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014