Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Gwyddoniaeth ryngddisgyblaethol ddyfeisgar

27 Tachwedd 2014

Cyn amled ag y gallaf, bydda i’n ymweld â gwahanol rannau o’r Brifysgol i gyfarfod â phobl a chael gwybod am yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud a’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad, fel petai. Gall hynny ddigwydd yn y Gwasanaethau Proffesiynol neu yn yr Ysgolion Academaidd; cewch chi bobl frwd a chreadigol a phrosiectau cyffrous ar hyd a lled y Brifysgol. Yn aml, bydda i’n ymweld am fod pobl wedi ysgrifennu ataf i roi gwybod am waith pwysig neu ddiddorol, neu efallai y clywa’ i am rywbeth ar hap wrth sgwrsio neu y gwela’ i rywbeth ar y we y mae’n werth mynd ar ei drywydd. Dyna sut y ces i fy hun yn ymweld â labordy Dr Kelly Bérubé, gwraig a enillodd wobr Gwyddoniaeth Lush 2013 am ymchwil sy’n dod o hyd i ddulliau o arbrofi nad ydyn nhw’n cynnwys anifeiliaid.

Kelly yw Cyfarwyddwraig y Grŵp Ymchwil i’r Ysgyfaint a Gronynnau yn Ysgol y Biowyddorau ac mae hi a’i thîm bach wedi datblygu methodoleg ryfeddol ar gyfer canfod effeithiau mewnanadlu nanoronynnau, sef llygryddion aer, ar ysgyfaint pobl. Ar lygod mawr, yn draddodiadol, y gwneir yr arbrofion hynny, ond mae amryw o anfanteision i hynny. Ar wahân i’r effaith ar y llygod mawr, rhaid cymhwyso’r mecanweithiau at bobl i weld a ydyn nhw’n gweithio, ac mae cost defnyddio ‘anifeiliaid yn fodelau’, chwedl y derminoleg, yn uchel iawn.

Yr hyn y mae grŵp Kelly wedi’i wneud yw adeiladu ar waith Dr Zoe Prytherch, aelod o’r grŵp, wrth ddefnyddio bôn-gelloedd o feinwe’r ysgyfaint i greu modelau o arwynebau mewnol yr ysgyfaint dynol. Mewn partneriaeth â Dr Tim Jones o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, byddan nhw’n casglu samplau o lygryddion atmosfferig ar y raddfa nano – y math casaf – ac yn astudio mecanweithiau’r rhyngweithiadau niweidiol rhwng y gronynnau bychan bach hynny a meinwe dynol sydd wedi’i feithrin. O gymharu hwn â dulliau eraill – gan gynnwys ffyrdd eraill o ddefnyddio celloedd dynol – mae’n ffordd rad ac effeithiol iawn o astudio’r union fecanweithiau sydd wrth wraidd y problemau iechyd enfawr sy’n deillio o lygredd aer. Fydd neb sydd wedi bod i Tsieina neu rannau eraill o Asia yn y blynyddoedd diwethaf yn synnu o glywed bod gwaith y Grŵp Ymchwil i’r Ysgyfaint a Gronynnau yn cyffroi diddordeb yno, ond mae hyn yn broblem i’r byd i gyd. Os hoffech chi wybod rhagor, cewch chi edrych yma. Mae llwybrau addawol yn bod ar gyfer ymchwil yn y dyfodol: defnyddio mathau gwahanol o feinwe dynol (yr afu neu’r galon, er enghraifft) gyda’i gilydd i astudio mecanweithiau mwy cymhleth. Fe darodd fi fod y prosiect yn wyddoniaeth ryngddisgyblaethol ddyfeisgar sy’n rhoi sylw i broblem enfawr – i set o broblemau – a fydd yn wynebu’r ddynoliaeth yn y dyfodol a’i fod yn digwydd yma yng Nghaerdydd heb fawr o weddi croch amdano.