Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Lansio cynghrair GW4 yng Nghymru

25 Tachwedd 2014

Heno, fe gynhalion ni lansiad Cymru cynghrair GW4 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Ymunwyd â staff y Brifysgol gan Mr Ken Skates (Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth), yr Athro Syr Eric Thomas (Is-Ganghellor Prifysgol Bryste), yr Athro Jane Millar (Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil Prifysgol Caerfaddon),  yr Athro Syr Steve Smith (Is-Ganghellor Prifysgol Exeter) yn ogystal â gwesteion o fyd diwydiant, y llywodraeth a’r byd academaidd. Ymhlith y gwesteion yr oedd rhai o fyfyrwyr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol GW4. Nid yn unig yr ydynt yn ddyfodol byd diwydiant a’r byd academaidd ond maent hefyd yn arwydd cynnar o lwyddiant y gynghrair.

Agorodd yr Is-Ganghellor y noson drwy roi araith a amlinellai bwysigrwydd cydweithio, grym y pedair prifysgol gyda’i gilydd, a’r budd y gall y gynghrair ei greu i Gymru a De Orllewin Lloegr. Fe’i dilynwyd gan Syr Steve Smith a roddodd araith ddifyr iawn ynghylch pwysigrwydd dal i ariannu prifysgolion y DU yn helaeth er mwyn ysgogi twf economaidd a darparu’r sgiliau y bydd eu hangen i sicrhau economi seiliedig-ar-wybodaeth yn y dyfodol. Mae pob un o bedair prifysgol GW4 yn cytuno mai’r unig ffordd o wneud hynny yw cydweithredu – a dyna pam y sefydlwyd GW4. Yn olaf, lansiodd y gweinidog y gynghrair yn ffurfiol gan draddodi araith hynod gefnogol. Mae’n amlwg bod Mr Skates yn deall pwysigrwydd prifysgolion a’r rôl a chwaraeant mewn economi iach a chyfoethog. Aeth ati hyd yn oed i drydar cymaint o anrhydedd oedd lansio’r gynghrair ac i ddweud bod yma gydweithredu cyffrous a fydd yn esgor ar ymchwil o safon fyd-eang.