Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Dulliau Arloesol i Ddylunio a Chyflenwi Cwricwlwm

27 Tachwedd 2014

Heddiw, bûm mewn digwyddiad Fforwm Addysg Uwch yn San Steffan ar Ddulliau Arloesol i Ddylunio a Chyflenwi Cwricwlwm. Dim ond llond dwrn o’r digwyddiadau hyn rwyf wedi eu mynychu gan fod jyglo’r galwadau o ran fy amser, fel pawb, yn sialens. Ond roedd yr un yma yn arbennig o berthnasol, o ystyried ein cynlluniau ar gyfer buddsoddi mewn addysg yng Nghaerdydd.

Roedd adeiladu llwybrau unigol yn thema reolaidd ac roedd y digwyddiad yn cynnwys neges atgoffa ysbrydoledig gan yr Athro Emeritws Ron Barnett (Athrofa Addysg) y dylem ganolbwyntio ar hyblygrwydd o ran y person fel paratoad ar gyfer byd ansicr, nid dim ond hyblygrwydd yn ein prosesau. Yn sicr, mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o hyn wrth i waith ar y Portffolio Newid Addysg gyflymu.

Un fantais o fynychu digwyddiadau o’r fath yw sylweddoli bod y rhan fwyaf o brifysgolion yn cael trafferth i jyglo faint o waith sydd yn ofynnol i newid trawsnewidiol gwirioneddol. Gall yr angen sylweddol am fuddsoddi cychwynnol/arian sefydlu, amser wedi’i neilltuo ar gyfer datblygu ac uwchraddio parhaus o fannau dysgu, cwricwla a seilwaith TG arwain at ymdeimlad o rwystredigaeth wrth iddi ddod yn fwyfwy heriol i bacio mwy a mwy i mewn i raglenni academaidd ac i gadw i fyny gyda byd y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys rhai lluniau gwych o fannau dysgu newydd o bob cwr o’r byd; mae’n wirioneddol anhygoel i weld yr hyn y gall penseiri talentog gyflawni o fewn hen adeiladau blinedig neu’r llefydd rhyngddynt.