Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Cyfleusterau chwaraeon newydd ar gyfer myfyrwyr

19 Tachwedd 2014

Heddiw mynychais agoriad swyddogol y cae chwaraeon newydd gwych “3ydd cenhedlaeth” yng Nghaeau Chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn Llanrhymni.

Cafodd y cae ei ariannu ar y cyd gan y Brifysgol ac Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru ac roeddem yn falch iawn o gael Rheolwr Tîm Pêl-droed Cymru, Chris Coleman, gyda ni i dorri’r rhuban. Roedd yn arbennig o dda gallu ei longyfarch ar gychwyn gwych ei dîm yn eu hymgyrch Ewropeaidd yn dilyn canlyniad gwych yng Ngwlad Belg ar ddydd Sul!

Mae’r cae pob tywydd newydd eisoes wedi dangos ei werth, gan alluogi gwahanol dimau chwaraeon y Brifysgol i gynnal gemau a fyddai fel arall heb fod yn bosibl oherwydd y tywydd yng Nghymru. Mae gan y Brifysgol tua 65 clwb chwaraeon gyda dros 150 o dimau yn cystadlu ac yn hyfforddi yn wythnosol. Bydd y cyfleuster newydd yn cynnal llawer o’r gweithgarwch hwn ac mae eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar berfformiad y timau hynny sy’n chwarae arno. Ar y nodyn hwnnw, llongyfarchiadau i dîm Pêl-droed Un ar ddeg Cyntaf y Merched, a chwaraeodd y gêm gyntaf a chwaraewyd ar y cae ar ôl y seremoni agoriadol a churo Aberystwyth gyda llwyddiant ysgubol o 7-0!

Yn bwysig, mae’r cae yn ased y tu hwnt i’r Brifysgol. Yn ogystal â chroesawu timau o’r gymuned leol, rydym wedi bod yn falch iawn o’i rannu gyda thimau teithiol Rygbi rhyngwladol: gydag Awstralia, Fiji a’r Crysau Duon wedi ymweld yn barod ac mae De Affrica yn cyrraedd yr wythnos nesaf.