Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Dysgu ac addysgu arloesedd yn Singapore ac Awstralia

17 Tachwedd 2014

Rwyf newydd ddychwelyd o daith pythefnos o amgylch prifysgolion yn Singapore ac Awstralia, a oedd yn gyffrous ac yn flinedig ar yr un pryd. Nod y daith oedd dyfnhau fy nealltwriaeth o sut mae prifysgolion ymchwil-ddwys yn rhyngwladol yn ymdrin â’r busnes cymhleth o ddysgu, addysgu a chefnogi myfyrwyr yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae Prifysgol Caerdydd yn cychwyn ar raglen sylweddol o fuddsoddi ym mhrofiad y myfyriwr ac rydym am ei gael yn iawn.

Roedd yn galonogol clywed nad ydym ar ein pennau ein hunain gyda nifer o’r heriau a wynebwn: addysgu carfannau mawr yn effeithiol, gan ddarparu myfyrwyr gydag adborth ystyrlon ar eu gwaith, gwneud y defnydd gorau o’r amrywiaeth o dechnolegau sy’n newid yn gyson a pharatoi graddedigion gyda’r wybodaeth, y sgiliau ac agweddau i lwyddo mewn dyfodol ansicr, yn ogystal â chefnogi staff academaidd ar bob lefel i ddatblygu eu dysgu ac ymarfer addysgu yng ngoleuni’r heriau hyn.

Yn nodedig, ni wnaeth unrhyw un yr ymwelais â nhw – a dewisais, yn fwriadol, sefydliadau mawr, ymchwil-ddwys sy’n perfformio’n well na Chaerdydd ar hyn o bryd yn y tablau cynghrair – unrhyw ymddiheuriad am gymryd dysgu ac addysgu yn ddifrifol iawn. Roedd pob un eisoes ar gam lawer mwy datblygedig nag yr ydym ni yng ngweithrediad prif raglenni o newid trawsnewidiol a gynlluniwyd i wneud y gorau o’r manteision i fyfyrwyr o astudio gydag ymchwilwyr sy’n arwain y byd. Mewn geiriau eraill, tra mae llawer y gallwn ei ddysgu, does yna ychwaith ddim amser i’w golli.

Mae uchafbwyntiau penodol yn cynnwys:

  • mynychu agoriad Stiwdio Dysgu Arloesedd <http://www.adelaide.edu.au/learning-technologies/projects-initiatives/innovations-studio/> Prifysgol Adelaide, lle gall staff academaidd gael mynediad at gymorth cynllunio cwricwlwm arbenigol a phrofi’r offer a’r technegau diweddaraf, yn ogystal â theithio o amgylch eu cyfleuster myfyrwyr Hub Central <http://www.adelaide.edu.au/hub-central/> anhygoel
  • ymweld ag adeilad yr Ysgol Ddylunio newydd gwych ym Mhrifysgol Melbourne, enghraifft ragorol o sut mae’r ffordd y caiff llefydd eu ffurfweddu yn gallu trawsnewid profiadau dysgu ac addysgu myfyrwyr a staff
  • arwyddo cytundeb cyfnewid myfyrwyr newydd gyda Phrifysgol Dechnolegol Nanyang yn Singapore, sefydliad gwirioneddol ddeinamig gyda chyfleusterau rhagorol ar gyfer myfyrwyr a staff.

Dros yr wythnosau nesaf, byddaf yn archwilio gyda Bwrdd Gweithredol y Brifysgol a gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol sut yr ydym yn adeiladu ar y gwersi allweddol o’r daith i sicrhau bod ein Portffolio Newid Addysg yn darparu’r math cywir o drawsnewidiadau ar gyfer Caerdydd. Yn sicr, mae heriau o’n blaenau, ond, fel y dywedodd un o’r nifer o bobl ysbrydoledig y cyfarfuom ar y daith: “Her? Nid yw’n amhosibl felly!”