Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 27 Hydref 2014

27 Hydref 2014
  • Trafodwyd achos busnes yr Ysgol Optometreg (OPTOM) dros ehangu eu rhaglen ôl-raddedig a addysgir. Amlinellodd y papur gynlluniau i fynd ati, ar sail record o lwyddiant, i ehangu darparu cyrsiau o’r fath ar gyfer optometryddion a gweithwyr proffesiynol gofal llygaid yn y DU ac mewn gwledydd tramor, ac fe nododd sut y gellid datblygu gofod clinigol a strwythur y staff. Cytunodd y Bwrdd i gymeradwyo buddsoddi cyfalaf ar gyfer y costau ailwampio a’r cyllid refeniw i gael staff ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf er mwyn ehangu’r ddarpariaeth hon yn OPTOM.
  • Cafodd y Bwrdd adroddiad ar fenter beilot profiad gwaith WorkFit. Cefnogai’r adroddiad osod dau unigolyn â Syndrom Down yn y Clinig Llygaid yn yr Adeilad Optometreg. Barn y Bwrdd yw bod cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ar y Brifysgol, fel un o’r cyflogwyr mwyaf yng Nghaerdydd, i ddarparu profiad gwaith a chyflogaeth i unigolion â galluoedd gwahanol. Cytunwyd y dylid datblygu cynlluniau a chyfleoedd i gynnig lleoliadau gwaith ac interniaethau – rhai â thâl a rhai di-dâl. Cytunwyd y dylai Is-Gangellorion y Colegau a Ms Dowden, fel pedwar deiliad cyllideb, ymrwymo cyllid o 2015/16 i gyllid a allai ariannu ffurfiau cyfyngedig ar gyflogaeth i oedolion â galluoedd gwahanol.
  • Cafodd y Bwrdd wybodaeth gan y Brifysgol am Ddatganiad Monitro Blynyddol y Strategaeth Ranbarthol ar ran Rhanbarth De Ddwyrain Cymru. Nodwyd bod CCAUC wedi gofyn am i’r strategaeth ranbarthol gael parhau am flwyddyn arall tra byddant yn adolygu dyfodol cynllunio rhanbarthol, ac yr oedd y prifysgolion yn Rhanbarth De Ddwyrain Cymru wedi cytuno y dylid cynghori CCAUC i symud at ymagwedd fwy ystyrlon a’i seilio ar Ranbarth y Ddinas. Cytunodd y Bwrdd i gymeradwyo Datganiad Monitro Blynyddol y Strategaeth Ranbarthol i’w gyflwyno i CCAUC.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad y Prif Ddirprwy Is-Ganghellor
  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd