Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Gwobrau Cydnabod Gwasanaeth

28 Hydref 2014

Cefais flas mawr iawn ar arwain seremoni flynyddol y Brifysgol i gyflwyno Gwobrau Cydnabod Gwasanaeth yn Adeilad Hadyn Ellis. Digwyddiad yw hwn sy’n ddathliad i’r aelodau o’r staff sy’n gweithio i’r Brifysgol ers 25 neu 40 mlynedd. Mae’n gyfle i’r Brifysgol ddiolch i bob un o’r unigolion hynny am eu gwasanaeth hir, eu gwaith caled a’u cyfraniad. Mae’n ddigwyddiad cwbl arbennig yng nghwmni aelodau o’r staff a’u teuluoedd ac yn gyfle i ystyried sut mae’r amserau wedi newid (neu, yn wir, nad yw rhai pethau byth fel petaen nhw’n newid). Ar ôl y seremoni bydd cinio, ac eleni cawsom berfformiad gwych gan Gôr Inspire i’n difyrru, a gwn iddo gael ei werthfawrogi’n fawr. Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cyrraedd y cerrig milltir pwysig hyn.