Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Cynhadledd Gweithle Stonewall Cymru

24 Hydref 2014

Y bore ’ma siaradais yng Nghynhadledd Gweithle Stonewall Cymru fel rhan o’r panel agoriadol ochr yn ochr â Ruth Hunt, Prif Weithredwr Stonewall, y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac Amy Stanning, sy’n gweithio i Barclays fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Datrysiadau Cartref.

Er iddi fod yn anodd dilyn araith wych Ruth (bydda i’n clywed llawer ohonyn nhw a fydda i ddim yn dweud hynny ar chwarae bach), pleser arbennig oedd cael gwahoddiad i siarad am ei bod hi’n ymddangos i mi fod angen i brifysgolion arwain ym maes cynhwysedd, amrywiaeth a chydraddoldeb. Gan ’mod i’n aelod o fwrdd yr Uned Her Cydraddoldeb oddi ar 2008, fe wn na allwn ni laesu dwylo, ond os na all prifysgolion fod yn rym pwerus o blaid newid mewn cymdeithas, pwy all?

Y pwynt wnes i yw hyn: er mai synnwyr busnes da yw sicrhau bod pawb yn y sefydliad yn teimlo bod croeso iddo/iddi, ei fod/ei bod yn gyffyrddus ac yn cael ei (g)werthfawrogi yn y gweithlu, mae rhwymedigaeth sylfaenol (a chyfreithiol, yn wir) arnon ni i greu amgylchedd cynhwysol a diogel ar y campws. Dyna ran sylfaenol o’r ffordd y dylai cymdeithas weithio. Yn ei haraith ddifyr a chefnogol, gwnaeth Rosemary Butler bwynt tebyg ar ran Llywodraeth Cymru. Soniais am fy malchder i mi fod yn Gyfaill cyntaf i Enfys ac am bwysigrwydd arwain o ran sicrhau bod aelodau LGBT+ o’r staff a myfyrwyr LGBT+ yn teimlo bod cefnogaeth iddynt a bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Terfynais drwy ddyfynnu un o’n haelodau o’n staff a ddywedodd mai’r ‘gwaith y mae’r rhwydwaith LGBT+ yn ei wneud yn un o’r rhesymau gorau pam rwy’n falch o weithio ym Mhrifysgol Caerdydd’.

Siaradodd Amy Tanning ar fy ôl yn gwbl ysbrydoledig. Daeth hi â ni wyneb yn wyneb â phwysigrwydd bod yn esiampl wrth sicrhau newidiadau sefydliadol, ac rwy’n credu i lawer ohonom gael ein siomi ar yr ochr orau o glywed mor flaengar yw Barclays wrth gefnogi cynhwysedd, amrywiaeth a chydraddoldeb. Er ein bod ni’n gwneud yn dda – yn cael 10 allan o 10 yn asesiad ‘Gay by Degrees’ Stonewall am yr ail flwyddyn yn olynol – gallwn ni bob amser ddysgu rhagor oddi wrth yr hyn y mae pobl eraill yn ei wneud.