Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Lansio’r Prosiectau Ymgysylltu Blaenllaw

21 Hydref 2014

Heno, cefais y pleser o lansio’n prosiectau ymgysylltu blaenllaw ni yn y Senedd gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. Nod y prosiect, ymhlith pethau eraill, yw gwella iechyd, addysg a lles, cwtogi ar anghydraddoldeb a thaclo tlodi, a gwneud hynny law yn llaw â’r cymunedau perthnasol. Mae’r nodau uchelgeisiol hynny’n cyd-fynd yn agos â’r rhai sydd gan Lywodraeth Cymru. Roedd rhai ohonoch chi yn y gynulleidfa fawr a oedd hefyd yn cynnwys gwleidyddion o fri, arweinwyr cymunedol ac unigolion sy’n ddylanwadol ym mywyd cyhoeddus Cymru.

Anfonodd Prifysgol Namibia, sy’n gweithio gyda ni ar Brosiect Ffenics, ddirprwyaeth i’r lansiad:

  • Ms Petrina Haingura, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Miss Emily Sivhute, Ysgrifenyddes y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Dr Jacob Sheehama, Dirprwy Ddeon Cyswllt Ysgol Meddygaeth Prifysgol Namibia
  • Mr Alois Fledersbacher, Cofrestrydd Prifysgol Namibia

Cewch chi ddarllen rhagor am y lansiad, neu wylio’r ffilmiau, yma.