Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Ymweliad Uned Ryngwladol Universities UK (UUK) â Brwsel

14 Hydref 2014

A minnau’n Gadeirydd Uned Ryngwladol Addysg Uwch y DU, fe arweiniais ddirprwyaeth i Frwsel ddydd Llun 13 a dydd Mawrth 14 Hydref. Yn y rôl honno bydda i’n cyfarfod ag aelodau o’r Comisiwn Ewropeaidd a Senedd Ewrop unwaith neu ddwywaith y flwyddyn i gynrychioli buddiannau byd addysg uwch yn y DU am fod polisi Ewropeaidd yn hollbwysig i ddyfodol pob un ohonon ni. Nid yn unig y mae’n ffynhonnell fawr o gyllid (€80 bn dros y saith mlynedd nesaf drwy Horizon 2020 yn unig) ond mae’r fframwaith cyfreithiol a’r fframwaith polisi ehangach yn effeithio ar bopeth o gyfraith cyflogaeth i ffioedd myfyrwyr a recriwtio myfyrwyr. Er ei bod hi’n anodd mynd ati’n syth i fesur effaith y mathau hyn o ymweliadau, mae angen i ni fel sector ymweld yn rhesymol o reolaidd er mwyn i ni fod yn bresenoldeb cyfarwydd. Alla i ddim â mynd i bob cyfarfod, ond mae’n gymorth o ran parhad pan alla i wneud hynny. Prif bynciau’r sgwrs oedd lefelau cyllido Horizon 2020 dros y ddwy flynedd nesaf – maen nhw’n dal yn destun trafod rhwng Cyngor y Gweinidogion, y Senedd a’r Comisiwn ac mae perygl y bydd gostyngiad sylweddol ynddyn nhw y flwyddyn nesaf – a rhaglen Erasmus+. Gan fod llwyddiant y DU wrth hyrwyddo symudedd tuag allan wedi peri bod prinder cyllid yn y maes hwnnw hefyd, rydyn ni’n ymdrechu’n ddygn i sicrhau nad yw’n myfyrwyr ni o dan anfantais.