Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 6 Hydref 2014

6 Hydref 2014
From left to right: Professor Patricia Price, Claire Sanders, Professor Hywel Thomas, Professor Dylan Jones, Professor Elizabeth Treasure, Professor Colin Riordan, Jayne Dowden, Professor George Boyne, Mike Davies and Professor Karen Holford.
From left to right: Professor Patricia Price, Claire Sanders, Professor Hywel Thomas, Professor Dylan Jones, Professor Elizabeth Treasure, Professor Colin Riordan, Jayne Dowden, Professor George Boyne, Mike Davies and Professor Karen Holford.
  • Dangoswyd blog newydd y Bwrdd iddo. Nodwyd bod yr adborth o weithdai Y Ffordd Ymlaen: Gwneud iddo Ddigwydd wedi tynnu sylw at ddiffygion y cyfathrebu mewnol, a gwelir y blog yn ffordd o wella hynny. Rhoir y blog ar y wefan sy’n wynebu tuag allan tan i’r fewnrwyd gael ei datblygu’n llawn. Wedi hynny, gellir ei symud i’r fewnrwyd a rhoi papurau anghyfrinachol arno. Y bwriad yw i’r blog ymddangos yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.
  • Cafodd y Bwrdd bapur ar Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr newydd 2015. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid y Coleg tan 31 Mawrth 2017 yn unig. O ganlyniad, cawsai telerau’r cynllun ar gyfer myfyrwyr newydd 2015/16 eu diwygio ac yr oedd yn rhaid i sefydliadau gynnig sicrwydd diamod i ddarparu gweddill gwerth yr ysgoloriaethau pe na bai’r Coleg mewn sefyllfa i barhau i’w hariannu y tu hwnt i 18 mis. Er gwaetha’r ansicrwydd ynghylch gallu’r Coleg i ariannu’r Ysgoloriaethau yn y dyfodol, cytunwyd y dylai’r Brifysgol annog myfyrwyr i gyflwyno ceisiadau i Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
  • Dasfwrdd Portffolio Newidiadau’r Brifysgol – Medi 2014
  • Adroddiad Misol y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata
  • Adroddiad Misol y Prif Swyddog Gweithrediadau
  • Y Newyddion Diweddaraf am Niferoedd y Myfyrwyr