Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Derbyniad y Dyrchafiadau Academaidd

6 Hydref 2014

Heno fe es i dderbyniad i’r staff academaidd a gafodd ddyrchafiad yn ystod 2013/14. Rhoes yr Is-Ganghellor groeso cynnes i’n gwesteion a’u llongyfarch. Treuliwyd y noson yn cyfarfod â staff ac yn rhwydweithio. Hyfrydwch, bob amser, yw mynd i ddigwyddiadau o’r fath a mawrygu llwyddiant ein staff. Llongyfarchiadau i bob un ohonoch a gafodd ddyrchafiad y llynedd a phob lwc i’r rhai sy’n gwneud cais eleni.