Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

HMC (Cynhadledd y Prifathrawon a’r Prifathrawesau)

30 Medi 2014

Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb Panel Prifysgolion cynhadledd flynyddol y Prifathrawon a’r Prifathrawesau gan Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd. Daeth y cynadleddwyr o’r Celtic Manor i’r Brifysgol ar gyfer y sesiwn ac roeddwn i’n un o’r panel. Y cadeirydd oedd Chris Ramsey (Prifathro Ysgol y Brenin, Caer, a Chadeirydd Pwyllgor Prifysgolion yr HMC/GSA), ac aelodau eraill oedd Mike Nicholson (Cyfarwyddwr Derbyn Myfyrwyr, Prifysgol Caerfaddon), Aaron Porter (cyn-Lywydd yr NUS), Angela Milln (Cyfarwyddwr Derbyn Myfyrwyr, Prifysgol Bryste) a Nick Hillman (Cyfarwyddwr y Sefydliad Polisi Addysg Uwch, yr HEPI). Holodd y cwestiwn cyntaf a oedd cyflwyno ffioedd dysgu uwch wedi golygu rhoi mwy o bwys ar fodlonrwydd y myfyrwyr. Fy ateb i oedd bod prifysgolion yn symud i’r cyfeiriad hwnnw beth bynnag ac yn buddsoddi’n unol â hynny. Cafwyd trafod bywiog ac aethom ymlaen i roi sylw i ansawdd yr addysgu mewn prifysgolion ac i ofal bugeiliol, ac i ystyried a gâi dileu’r cyfyngiad ar niferoedd y myfyrwyr yn Lloegr effaith ar Gymru.

Cewch chi wybod rhagor am gynhadledd flynyddol yr HMC yma.