E-bost yr Is-Ganghellor i holl staff ar gyfer Medi 2014
30 Medi 2014Annwyl gydweithiwr
Rwy’n ysgrifennu hwn wrth deithio adref ar ôl arwain dirprwyaeth gan Brifysgol Caerdydd i Leuven yng Ngwlad Belg, lle y llofnodais gytundeb gyda’r Athro Rik Torfs, Is-Ganghellor KU Leuven, i sefydlu ein dwy brifysgol mewn partneriaeth strategol allweddol. Cawsom groeso hynod o gynnes a chan i’n hymweliad gyd-ddigwydd â dechrau’r flwyddyn academaidd newydd – sef adeg yn Leuven, fel mewn prifysgolion eraill yn y wlad, a gaiff ei dathlu drwy gynnal seremoni draddodiadol sy’n cynnwys gorymdaith mewn gwisg academaidd lawn – fe gymerodd ein dirprwyaeth ni ran yn yr orymdaith honno. Hwyrach y gwyddoch chi fod y llinyn rhyngwladol yn y ddogfen Y Ffordd Ymlaen yn rhagweld dwy bartneriaeth strategol allweddol â phrifysgolion. Leuven, a sefydlwyd ym 1425 ac sy’n brifysgol gynhwysfawr, ymchwilddwys a mawr ei pharch, yw’r gyntaf ohonynt. Fel prifysgol fwyaf blaenllaw Fflandrys ond un sy’n gweithredu o fewn gwladwriaeth ehangach gwlad Belg, rhaid i Leuven (fel Caerdydd) ymgodymu â materion cymhleth – a sensitif weithiau – iaith, hunaniaeth a llywodraeth ddatganoledig. Am fod llawer maes yn debyg rhyngom, roeddwn i’n falch dros ben o weld ymateb cadarnhaol i’n cynnig gwreiddiol i gysylltu â’n gilydd. Rwy’n sicr y bydd y bartneriaeth yn ychwanegu llu o ddimensiynau at ein gweithgarwch rhyngwladol yn fwy cyffredinol, ac yn benodol yn Ewrop, yn arbennig mewn perthynas â’n hymwneud â Horizon 2020. Bydd arnon ni eisiau hybu cydweithredu eang iawn, a bydd rhagor o fanylion am hynny ar gael yn ystod y misoedd nesaf.
Ar drywydd tebyg, rwy’n falch iawn o ddweud ein bod ni’n awr wedi penodi Dirprwy Is-Ganghellor dros Faterion Rhyngwladol ac Ewrop. Daw’r Athro Nora de Leeuw, sy’n gemegydd o fri, atom o Goleg y Brifysgol, Llundain, a bydd hi’n cychwyn ar 1 Ionawr 2015. Bydd Nora’n aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol ac yn atebol am faterion sy’n ymwneud â’n gweithgareddau rhyngwladol, yn enwedig o ran partneriaethau a cheisiadau am gyllid. Bydd hynny’n cynnwys goruchwylio’n gweithgarwch academaidd ni yn Ewrop. Mae cyfleoedd mawr i Horizon 2020, Cronfa Newton a mentrau eraill tebyg ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda Nora ar y materion hynny.
Un o nodau’n strategaeth ryngwladol yw cynyddu’n proffil a’n hamlygrwydd yn fyd-eang. Bydd hynny’n werthfawr ynddo’i hun o ran cynyddu’n bri ni a denu staff a myfyrwyr o’r safon uchaf o bedwar ban y byd. Ond bydd hefyd yn ein helpu ni i gyrraedd ein nod cyffredinol o godi unwaith eto i blith y 100 prifysgol orau yn y byd. Gan i ni godi 13 o leoedd i rif 123 yn nhabl 2014/15, a chodi 20 lle yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, rydyn ni’n gwneud yn dda. Fe godon ni hefyd chwe lle yn y Times/Sunday Times Good University Guide, gan gyrraedd y 27ain safle. Gan gadw mewn cof y rhybuddion arferol ynghylch tablau cynghrair, mae hynny’n newyddion da iawn i Gaerdydd ac yn galondid at y dyfodol. Roeddwn i hefyd yn falch iawn o weld i ni gael y marciau uchaf gan Stonewall am ein cymorth i fyfyrwyr LGBT+ (yr unig brifysgol yng Nghymru, ac un o ddim ond chwech ym Mhrydain, i wneud hynny) ac i ni lwyddo i adnewyddu’n hachrediad ni gyda Buddsoddwyr mewn Pobl (yr unig brifysgol yng Ngrŵp Russell i fod â’r statws hwnnw i’r sefydliad cyfan). Braf iawn hefyd oedd gweld i ni sicrhau statws efydd Athena SWAN fel sefydliad am ein hymrwymiad i fenywod mewn gwyddoniaeth.
Efallai eich bod chi’n cofio i ni gyflwyno’r Cyflog Byw ym Mhrifysgol Caerdydd yn gynharach eleni. Ers hynny, mae cydweithwyr wedi bod wrthi’n ceisio sicrhau achrediad gan y Sefydliad Cyflog Byw, ac rwy’n falch o ddweud bod hynny wedi’i gyflawni erbyn hyn. Fel Cyflogwr Cyflog Byw achrededig, mae Prifysgol Caerdydd yn ymrwymo i dalu isafswm cyflog o £7.65 yr awr i bawb sy’n gweithio yma, boed yn weithiwr cyflog neu’n gontractwr a chyflenwr trydydd-parti. Mae hwnnw’n swm tipyn uwch na’r isafswm cyflog cenedlaethol o £6.50 (a ddaw i rym ar 1 Hydref). Yn ymarferol, rydyn ni eisoes wedi bod yn gwneud llawer o hynny, ond rwy’n credu bod yr ymrwymiad cyhoeddus yn anfon arwydd pwysig a all annog cyflogwyr eraill i ddilyn ein hesiampl.
Rwy’n credu ar y cyfan bod pethau’n mynd yn dda – er nad oes dim byd yn berffaith byth – ac rwy’n optimistaidd ynghylch rhagolygon Caerdydd wrth i ni gychwyn ar y flwyddyn academaidd newydd. Byddwn ni’n cwblhau’n hymarfer i lunio prif gynllun ar gyfer ein hystadau tua diwedd y tymor hwn ac yn dechrau buddsoddi symiau mawr. Gobeithio y byddwch chi’n dechrau sylwi cyn hir ar welliannau yng nghyflwr presennol y Brifysgol hefyd. Ac am fod gennym ni ganlyniad yr REF i edrych ymlaen ato ym mis Rhagfyr, mae hi’n addo bod yn flwyddyn gyffrous.
Gyda dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014