Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 29 Medi 2014

29 Medi 2014
  • Cafodd y Bwrdd adroddiad ar weithdai Y Ffordd Ymlaen: Gwneud Iddo Ddigwydd a redwyd yn ystod 2013/14. Crynhodd yr adroddiad ddarganfyddiadau arolwg a seiliwyd ar ddadansoddiad o’r allbynnau, arolwg ar-lein, grŵp ffocws a rhai cyfweliadau un-i-un dilynol. Ar y cyfan, llwyddodd y gweithdai i gael y staff i ymgysylltu â’r strategaeth ac â’r ffyrdd y gallent helpu i’w chyflawni. Barn gadarnhaol oedd gan dîm asesu Buddsoddwyr mewn Pobl am y gweithdai. Cytunwyd y dylai’r staff a ddaw i weithdai yn y dyfodol gael eu hannog i weithredu i sicrhau newid mewn cyd-destun lleol ac nid o reidrwydd i gychwyn prosiectau newydd neu ddwyn ymlaen weithredoedd i’r Bwrdd eu rhoi ar waith. Nodwyd mai dim ond carfan fach o boblogaeth staff y Brifysgol a oedd wedi dod i’r gweithdai a bod angen cynyddu cyfranogiad y grwpiau nad oes cymaint a chymaint ohonynt wedi dod i’r gweithdai. Er y bydd modd i’r staff eu henwebu eu hunain i ddod i weithdai yn y dyfodol, byddai’n fuddiol cynnal trafodaethau gyda Phenaethiaid Ysgol i sicrhau y caiff y staff nad ydynt yn eu henwebu eu hunain, ond a fyddai’n elwa o ddod i’r gweithdai, yn cael eu hannog i wneud hynny.
  • Cafodd y Bwrdd y newyddion diweddaraf am berfformiad y sefydliad o ran iechyd, diogelwch a’r amgylchedd, gan gynnwys amlinelliad o’r broses barhaus o aildystysgrifo ac o’r cynnydd o ran gwasanaethau iechyd a lles y staff. Yr oedd perfformiad cyffredinol y Brifysgol yn y maes hwnnw’n gwella. Nodwyd bod meddygfa’n cael ei sefydlu ar lawr gwaelod Canolfan Iechyd y Brifysgol er mwyn iddi fod ar gael i’r myfyrwyr a’r staff yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Câi’r Bwrdd adroddiad llawn ym mis Tachwedd 2014.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Y Newyddion Diweddaraf am y Prosiectau Ystadau
  • Adroddiad y Prif Ddirprwy Is-Ganghellor
  • Adroddiad Misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg