Caerdydd ac Ehangu Mynediad
21 Medi 2014Mae cyfeiriad strategol y Brifysgol, fel y’i cyflwynir yn Y Ffordd Ymlaen 2012-17, a Strategaeth ategol Addysg a Mynfyrwyr yn datgan y bydd Caerdydd yn recriwtio’r myfyrwyr mwyaf disglair o bob rhan o gymdeithas, gan ganolbwyntio’n benodol ar grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Ehangu Mynediad (EM) yng Nghaerdydd sy’n gyfrifol am recriwtio a chadw myfyrwyr o amrywiaeth fawr o grwpiau sydd, yn
draddodiadol, wedi’u tangynrychioli mewn addysg uwch. Mae’n gyfrifol am eu cynnydd a’u llwyddiant hefyd.
Mae ehangu mynediad yn elfen allweddol o Ddatganiad Polisi Llywodraeth Cymru ar Addysg Uwch. Caiff perfformiad y Brifysgol ei fesur yn flynyddol trwy’r Cynllun Ffioedd Blynyddol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Mae gweithgareddau ehangu mynediad y Brifysgol yn helpu i chwalu’r rhwystrau traddodiadol rhag addysg uwch a chywiro’r camsyniad bod mynediad i brifysgol sy’n aelod o Grŵp Russell, fel Caerdydd, i’r dethol rai breintiedig. Mae’n canolbwyntio ar weithio gyda phobl ifanc yng nghlystyrau Cymunedau yn Gyntaf Cymru, gan roi cyngor, arweiniad a chefnogaeth drwy gydol eu hamser yn y Brifysgol, a’u galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau pwrpasol.
Mae Caerdydd am sicrhau bod ehangu mynediad a chymryd rhan yn rhan annatod o’r broses dderbyn. Bydd yn gwella gweithdrefnau derbyn er mwyn cynorthwyo pobl o gefndiroedd sydd heb gymryd rhan mewn AU yn draddodiadol, yn ogystal â chynnig cymorth priodol i’w galluogi i symud ymlaen yn llwyddiannus drwy raglenni astudio ac i swydd neu ragor o astudio.
Mae gan y Brifysgol hanes cryf o weithgareddau ehangu mynediad:
- Mae’n gweithio gyda thros 100 o ysgolion a cholegau mewn ardaloedd difreintiedig ar draws Cymru i wella dyheadau a
chodi ymwybyddiaeth o addysg uwch. - Mae dros 1,500 o fyfyrwyr chweched dosbarth yn elwa bob blwyddyn o’n rhaglenni ehangu mynediad cyffredinol.
- Mae dros 15,000 o ddisgyblion Cymru ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn elwa o’r Sioe Deithiol Addysg Uwch, sef menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd sy’n ennyn diddordeb disgyblion ac yn eu hannog i barhau mewn addysg.
- Mae Caerdyddymhlith y tair prifysgol orau yng Nghymru o ran nifer y myfyrwyr o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf y mae’n eu croesawu bob blwyddyn. (Poblogaeth gofrestru safonol Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) 2011/12 a 2012/13)
- Bob blwyddyn, mae dros 100 o fyfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y rhaglen Camu i Fyny i Brifysgol (prif weithgaredd ehangu mynediad y Brifysgol) yn sicrhau lleoedd i astudio gradd gyntaf yng Nghaerdydd. Mae llawer o fyfyrwyr eraill yn sicrhau lleoedd mewn sefydliadau addysg uwch eraill. Mae tua 50 o’r myfyrwyr hyn yn cael bwrsari’r Cam Nesaf (taliad unigol o £1,000).
- Mae’r tîm ehangu mynediad yn trefnu tair Ysgol Haf Breswyl wedi’u hanelu at grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli:
- Nod yr Ysgol Haf i Fyfyrwyr Camu i Fyny yw rhoi blas ar fywyd prifysgol i fyfyrwyr
- Ysgol Haf Darganfod unigryw i bobl ifanc ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig
- Ysgol Haf Dyfodol Hyderus i bobl ifanc mewn gofal
- Caerdydd oedd y Brifysgol gyntaf i fynd ati i ymgysylltu ag ymadawyr gofal yng Nghymru ac mae’n parhau i arloesi yn y maes hwn. Ar hyn o bryd, mae 47 o ymadawyr gofal wedi cofrestru gyda’r Brifysgol, gydag 16 o’r rhain yn fyfyrwyr newydd a ddechreuodd yn 2014/15.
- Mae’r Brifysgol yn derbyn Nod Ansawdd Ymddiriedolaeth Frank Buttle, sy’n cydnabod y ‘lefel ragorol o gymorth’ a roddir i blant o dan ofal a phobl sy’n gadael gofal i’w helpu i symud ymlaen mewn addysg uwch. Mae’r Brifysgol yn cynnig pecyn cymorth er mwyn eu cynorthwyo â’r cyfnod pontio i addysg uwch a thrwy gydol eu hastudiaethau gyda ni.
- Mae Caerdydd yn rhan o bartneriaeth Ymestyn yn Ehangach De Cymru – Campws Cyntaf, gan ddarparu gweithdai i grwpiau oed iau er mwyn gwella cyrhaeddiad trwy ddosbarthiadau adolygu TGAU Saesneg a Mathemateg a digwyddiadau’n gysylltiedig â phynciau STEM ac Ieithoedd Tramor Modern.
- Mae Caerdydd yn aelod o University Network (UNet). Mae UNet yn bartneriaeth gydweithredol o brifysgolion blaenllaw (Caerfaddon, Rhydychen, Reading, Southampton) sy’n anelu at ehangu mynediad i AU.
- Mae Caerdydd yn sylweddoli bod angen cynorthwyo myfyrwyr EM i wneud yn siŵr eu bod yn llwyddo. Mae amrywiaeth o becynnau cymorth ar gael i gynorthwyo myfyrwyr yn ystod eu hamser yng Nghaerdydd. Mae’r rhain yn cynnwys pecynnau cymorth ariannol ar ffurf ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chronfeydd cymorth ariannol i wneud yn siŵr nad yw costau byw yn eu rhwystro rhag cael addysg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr ar gael hefyd gan ein dwy Ganolfan Cymorth i Fyfyrwyr. Mae gweithwyr cymorth proffesiynol yn gweithio ynddynt sy’n arbenigo mewn Cyngor ac Arweiniad, Anabledd a Dyslecsia, Cwnsela, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, a chymorth ariannol.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014