Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Llongyfarchiadau! oriau agor yr haf a chael eich canlyniadau

11 Mehefin 2024
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig a addysgir ar 11 Mehefin.

Annwyl fyfyriwr,

Wrth inni gyrraedd diwedd y flwyddyn academaidd hon, roeddwn i eisiau dymuno’r gorau ichi cyn gwyliau’r haf.

Rwy’n gwybod y bydd llawer ohonoch chi’n dychwelyd adref yn ystod yr wythnosau nesaf, ond os byddwch chi’n aros yng Nghaerdydd cofiwch y bydd rhai o’n hadeiladau a’n gwasanaethau – gan gynnwys llyfrgelloedd, lleoedd arlwyo a Chyswllt Myfyrwyr – ar agor hwyrach ar adegau gwahanol. Mae digwyddiadau a gweithgareddau ichi gymryd rhan ynddyn nhw o hyd a ffyrdd o gael gafael ar gymorth lles os bydd angen hyn arnoch chi.

Os byddwch chi’n newid llety neu’n symud i ffwrdd, dilynwch ein cyngor ar symud allancofiwch ddychwelyd eich llyfrau i’r llyfrgell a ble bynnag y byddwch chi, cofiwch ofalu amdanoch chi’ch hun a’ch eiddo bob amser.

Eich canlyniadau

Rydych chi i gyd wedi gwneud llawer o waith caled dros gyfnod yr arholiadau ac asesu ac rwy’n siŵr eich bod yn awyddus i gael eich canlyniadau. Bydd y rhain ar gael yn fuan yn eich Cofnod Academaidd ar SIMS.

I’r rheini ohonoch chi a fydd yn dychwelyd y flwyddyn nesaf – mwynhewch eich haf! Cymerwch yr amser i orffwys, cael eich cefn atoch a myfyrio ar bopeth rydych chi wedi’i gyflawni. Edrychaf ymlaen at eich gweld yn ôl ar y campws ym mis Medi.

Graddio #GraddioCaerdydd2024

Llongyfarchiadau i bob un o’n myfyrwyr! Edrychaf ymlaen at ddathlu gyda chi ym mis Gorffennaf. Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, mae angen i chi gofrestru a gwblhau unrhyw archebion erbyn 12:00 ddydd Mawrth 18 Mehefin. Wrth ichi gychwyn pennod nesaf, cofiwch fod gan Dyfodol Graddedigion adnoddau, cymorth a digwyddiadau i’ch helpu i ddeall eich opsiynau, cyflawni eich potensial a llwyddo i sicrhau swydd, astudiaethau pellach neu gyfleoedd eraill rydych chi eisiau eu dilyn.

Mehefin yw Mis Balchder ac Wythnos Ffoaduriaid

Gorymdaith Balchder Cymru yw un o ddigwyddiadau mwyaf lliwgar Caerdydd ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr eleni at weithio gydag Undeb y Myfyrwyr i gymryd rhan yn yr orymdaith ar 22 Mehefin. Dewch i ymuno â ni! Cymerwch gip ar beth arall sy’n digwydd yn ystod Mis Balchder.

Rwy’n falch ein bod yn Brifysgol Noddfa, gan gydnabod ein gwaith i groesawu, cefnogi a grymuso pobl sy’n ceisio noddfa. Ar gyfer Wythnos Ffoaduriaid y Byd , mae Rhwydwaith VOICES yn gweithio mewn partneriaeth â ni i gynnal dathliad diwylliannol bywiog yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr ar 14 Mehefin. Croeso i bawb – cofrestrwch cyn cymryd rhan.

Yma i’ch helpu

Fel bob amser, mae cymorth ar gael os oes ei angen arnoch chi drwy gysylltu â Chyswllt Myfyrwyr neu’ch tiwtor personol. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd, neu’n pryderu am unrhyw beth, mae gennym adnoddau hunangymorth ac apwyntiadau cwnsela a lles yn ogystal â chymorth arbenigol lle byddwn ni’n gwrando arnoch chi mewn ffordd anfeirniadol.

Diolch yn fawr unwaith eto am eich holl waith caled a’ch ymrwymiad yn ystod y flwyddyn academaidd hon. P’un a ydych chi’n parhau â’ch astudiaethau neu’n cychwyn ar bennod newydd, hoffwn i ddymuno’r gorau ichi. Mwynhewch wyliau’r haf a gobeithio eu bod yn hyfryd ac yn hamddenol.

Cofion gorau,
Claire