Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Diweddariad mis Mai gan eich Dirprwy Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr

16 Mai 2024
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan a anfonwyd at yr holl fyfyrwyr ar 16 Mai.

Annwyl fyfyriwr,

Ddoe, soniodd Wendy Larner, ein His-Ganghellor, am y gwersyll protest y tu allan i’r Prif Adeilad. Rwy’n deall cryfder y teimladau sy’n codi o ganlyniad i ryfel Israel-Gaza, ac rydyn ni’n cydnabod pa mor bwysig yw hi i drafod gyda’r myfyrwyr dan sylw, yn ogystal ag eraill, gan wrando ar bryderon pawb.

Rhaid i’n campysau barhau i fod yn lleoedd diogel, lle mae pawb yn cael eu parchu a lle mae pawb yn rhydd rhag cael eu haflonyddu. Fel erioed, dydyn ni ddim yn goddef unrhyw fath o aflonyddu na gwahaniaethu. Os oes angen cymorth arnoch chi, gallwch chi gysylltu â Cyswllt Myfyrwyr neu eich tiwtor personol.

Efallai bydd angen i chi ddefnyddio mynedfa wahanol a dangos eich cerdyn adnabod wrth geisio mynd i mewn i adeiladau fel Canolfan Bywyd y Myfyrwyr neu’r Prif Adeilad (os nad yw eich cerdyn gyda chi, defnyddiwch yr Ap Myfyrwyr).

Yr wythnos ddiwethaf es i i seremoni flynyddol Gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr (ESLA) – cawson ni fwy na 1300 o enwebiadau gan fyfyrwyr a staff mewn 17 categori. Diolch yn fawr i bawb a gyflwynodd enwebiad a llongyfarchiadau unwaith eto i bob un o’r enillwyr.

Fel y gwyddoch, mae eich adborth yn rhan fawr o’r hyn sy’n gwella’r brifysgol. Bydda i’n dychwelyd at y thema hon yn aml yn fy e-byst oherwydd ei bod yn bwysig eich bod yn gwybod pa newidiadau sy’n cael eu gwneud yn sgil eich adborth.

Bob blwyddyn bydd Undeb y Myfyrwyr yn cyflwyno Barn y Myfyrwyr sy’n amlinellu eich blaenoriaethau at y flwyddyn i ddod, ac rwy newydd dderbyn Barn y Myfyrwyr 2024 gan Undeb y Myfyrwyr. Ym mis Rhagfyr dywedais i wrthoch chi sut rydyn ni’n ymateb i’ch adborth yn Barn y Myfyriwr 2023, a dyma roi gwybod ichi bellach am y cynnydd rydyn ni wedi’i wneud yn unol â’ch blaenoriaethau eleni:

  • bellach, cewch ddefnyddio adnodd ar-lein newydd sy’n rhoi gwybodaeth am hygyrchedd ar y campysau – AccessAble
  • rydyn ni wedi cadw oriau estynedig Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
  • rhagor o arian i’n cronfa caledi, ar y cyd â phroses ymgeisio haws
  • mae gwaith wedi dechrau i wella’r amserlenni arholiadau ac addysgu fel y gall eich ysgol gynllunio’n well a gwella’ch profiad dysgu
  • rydyn ni’n sicrhau eich bod yn cael adborth academaidd defnyddiol a chyson drwy roi canllawiau ychwanegol i’r staff ar brosesau marcio.

Bydda i’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y gwelliannau hyn a’r ffyrdd y gallwch chi roi mwy o adborth.

A crowd of people in a stadium facing the camera and celebrating. Cardiff University, winners of the Varsity Shield 2024

Yn olaf, roeddwn i eisiau dechrau drwy longyfarch pawb a gymerodd ran yng Ngornest y Prifysgolion. Es i i weld digwyddiadau’r diwrnod olaf a pheth gwych oedd gweld Prifysgol Caerdydd yn cadw tarian Gornest y Prifysgolion o flaen torf fawr yn stadiwm Swansea.com. Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran a’r miloedd ohonoch chi a ddaeth draw i gefnogi.

Pob lwc yn eich arholiadau a’ch asesiadau.

Cofion gorau,
Claire