Eich semester gwanwyn
18 Ebrill 2024Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 18 Ebrill.
Annwyl fyfyriwr,
Croeso nol! – Rwy’n gobeithio eich bod wedi gallu gorffwys yn ystod y Pasg a’ch bod yn teimlo’n barod i ailgydio yn y semester newydd.
Y tro nesaf y byddwch chi yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, gofalwch eich bod yn edrych ar y gwaith celf newydd sy’n dangos y 50 o’r newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud yn y brifysgol yn dilyn eich adborth. Bydda i bob amser yn awyddus i bwysleisio pa mor bwysig yw eich adborth, a cheir llawer o ffyrdd y gallwch chi barhau i roi eich adborth.
Diolch i’r rhai ohonoch a gyflwynodd enwebiad ar gyfer y gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr sydd ar ddod. Cawsom dros 1,300 o enwebiadau ar gyfer y gwobrau sy’n cael eu cynnal mewn partneriaeth â’r brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Mae’r rhestr fer bellach wedi’i chwblhau, a gallwch ei darllen ar fewnrwyd y myfyrwyr. Edrychaf ymlaen at ddathlu gyda’r enwebeion a’r enillwyr ar 9 Mai.
Gornest y Prifysgolion
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â chi yng Ngornest Prifysgolion Cymru ar 24 Ebrill. Mae Tîm Caerdydd yn teithio i Abertawe eleni i gystadlu mewn mwy na 30 o chwaraeon gan gynnwys gemau Rygbi Dynion a Merched yn Stadiwm Swansea.com. Pob lwc i’r rheini ohonoch chi sy’n cymryd rhan, a chan mai llysgenhadon y Brifysgol fyddwch chi ar y diwrnod, cofiwch ymddwyn yn gyfrifol wrth fwynhau’r digwyddiadau.
Bod yn Fyfyriwr Hyrwyddo
Bellach, rydyn ni’n recriwtio Myfyrwyr Hyrwyddo ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf a chewch wneud cais tan 12 Mai. Mae’r hyrwyddwyr yn chwarae rhan ganolog yn ein gwaith, gan weithio mewn partneriaeth ag Academi Dysgu ac Addysgu’r Brifysgol i ddatblygu a llunio’r profiad o fod yn fyfyriwr, yn ogystal â dysgu digidol yn gyffredinol. Byddwch chi hefyd yn ennill sgiliau a phrofiad i helpu o ran cyflogaeth yn y dyfodol.
Cefnogaeth at yr arholiadau
Gan fod arholiadau ac asesiadau ar y gorwel, gwn y bydd y semester olaf weithiau’n gyfnod llawn straen. Cofiwch beidio â brysio’n ormodol, blaenoriaethwch eich tasgau a defnyddiwch yr adnoddau astudio a chymorth sydd ar gael ichi. Cysylltwch ar bob cyfrif os byddwch chi’n cael trafferth.
Y flwyddyn olaf
Os ydych chi yn eich blwyddyn olaf, dylech chi fod wedi derbyn eich gwahoddiad i’r seremoni raddio a gallwch chi ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynllunio’ch diwrnod ar y wefan. Ar ben hynny, mae gennych chi tan 30 Ebrill i gwblhau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS). Mae’r canlyniadau’n hynod bwysig, ac rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffordd rydyn ni’n defnyddio’ch adborth i wella profiad y myfyrwyr yn barhaus.
Dymunaf y gorau ichi yn ystod y semester olaf hwn, a gobeithio y bydd yr ychydig o fisoedd nesaf yn rhai pleserus a chynhyrchiol.
Cofion gorau,
Claire
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014