Paratoi ar gyfer eich dyfodol
29 Ionawr 2024Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 29 Ionawr.
Helo,
Os ydych chi wedi sefyll arholiadau a chael eich asesu’r mis hwn, gobeithio bod popeth wedi mynd yn dda. Mae fy nghylchlythyr y mis hwn yn trin a thrafod ym mha ffordd rydyn ni’n eich helpu i baratoi ar gyfer y dyfodol ac ym mha ffyrdd eraill rydyn ni’n eich helpu yn ystod eich amser yma.
Rhan bwysig o’n rôl yw eich helpu i baratoi ar gyfer y dyfodol. Ydych chi wedi cael cyfle eto i ymweld â man newydd y tîm Dyfodol Myfyrwyr ar lawr cyntaf Canolfan Bywyd y Myfyrwyr? Roeddwn i yno’n ddiweddar, ac roedd hi’n wych ei weld yn brysur ac yn cael ei ddefnyddio’n dda.
Gall ein timau a Llysgenhadon Myfyrwyr gwych eich helpu i ddod o hyd i swydd neu gyfle i gael profiad gwaith tra byddwch chi yma. Gallan nhw hefyd eich helpu i baratoi ar gyfer yr yrfa yr hoffech chi ei dilyn ar ôl graddio. Yn y brifysgol, gall fod yn amser da i roi cynnig ar rywbeth newydd a dod i wybod nid yn unig beth rydych chi’n ei hoffi ond hefyd beth dydych chi ddim yn ei hoffi. Mae sesiynau sgiliau cyflogadwyedd, ffeiriau gyrfaoedd i gwrdd â chyflogwyr, cyfleoedd i dreulio amser dramor, Gwobr Caerdydd a mentora gyrfaol sy’n eich paru â gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
Rydw i’n gwybod bod y cynnydd mewn costau byw yn y DU wedi golygu bod angen gwneud penderfyniadau mwy anodd wrth gyllidebu. Efallai eich bod yn poeni bod rhai cyfleoedd ddim yn bosibl i chi bellach. Byddwn i’n eich annog yn fawr i estyn allan a chysylltu â ni drwy’r porth Cyswllt Myfyrwyr. Fel arall, ewch i ddesg y tîm Cyswllt Myfyrwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr. Mae cymorth ariannol ar gael, ac rydyn ni yma i’ch helpu i wneud y gorau o’ch amser yma.
Hefyd, mae digon o gyfleoedd ar gael i weithio a gwirfoddoli i ni. Ein interniaethau ar y campws â thâl, sy’n agor ddiwedd mis Chwefror, yn rhoi cyfle gwych i chi gael profiad gwaith mewn amrywiaeth eang o feysydd. Mae llawer o rolau ar gael hefyd ar gyfer helpu i gefnogi eich cyd-fyfyrwyr. Rydyn ni’n recriwtio i’r rolau hyn ar wahanol adegau o’r flwyddyn.
Mae ein cynllun Myfyrwyr sy’n Mentora wedi bod ar waith ers mwy na 10 mlynedd, ac yn yr amser hwnnw, mae 5,000 o fyfyrwyr sy’n mentora wedi cefnogi dros 40,000 o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, a hynny drwy gynnal mwy na 16,000 o sesiynau mentora. Gellir priodoli’r niferoedd hyn i gryfder ein cymuned o fyfyrwyr.
Os ydych chi am ddod yn fyfyriwr sy’n mentora ym mlwyddyn academaidd 2024/25, gallwch chi wneud cais o heddiw ymlaen. Byddwch chi’n helpu i gefnogi israddedigion blwyddyn gyntaf o’ch ysgol academaidd, ac oherwydd eich bod wedi bod yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf o’r blaen, chi yw’r person gorau ar gyfer y rôl.
Gobeithio bod fy nghylchlythyr y mis hwn yn dangos ym mha ffyrdd gwahanol rydyn ni’n eich cefnogi chi a’ch dyfodol. Dyma ddymuno’r gorau i chi ar gyfer y semester newydd a 2024.
Cofion gorau,
Claire
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014