Cymryd rhan yn y Sgwrs Fawr
30 Hydref 2023Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr ar 30 Hydref.
Helo,
Mae gwrando ar eich barn yn rhan greiddiol o fy ngwaith, sef Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, ac mae gwneud hyn yn rhan hollbwysig o lwyddiant parhaus y Brifysgol.
Dim ond drwy roi eich adborth inni y gallwn barhau i wella’r profiad o fod yn fyfyriwr a bod yn brifysgol sy’n cyflawni’r hyn rydych chi eisiau inni ei gyflawni.
Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich adborth ac mae gennym lawer o enghreifftiau sy’n dangos sut rydyn ni eisoes wedi newid eich prifysgol yn seiliedig ar eich adborth, gan gynnwys:
- ymestyn oriau agor Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, felly mae bellach ar agor tan 22.00 yn ystod yr wythnos, a than 20.00 ar y penwythnos
- caeau pob tywydd newydd o dan lifoleuadau yng nghanolfan chwaraeon Llanrhymni
- lle astudio cymdeithasol newydd i fyfyrwyr ar gampws Parc y Mynydd Bychan, yn ogystal â gwell ystafelloedd cyffredin i fyfyrwyr yn yr ysgol Cemeg ac Ieithoedd Modern.
Y Sgwrs Fawr
I barhau â’r gwaith hwn, heddiw rydyn ni’n lansio’r Sgwrs Fawr. Ar y dechrau, gwelwn Angie Flores Acuna, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, a’r Is-Ganghellor newydd, yr Athro Wendy Larner, yn eistedd gyda’i gilydd ddydd Mawrth 31 Hydref yn Undeb y Myfyrwyr i drafod materion pwysig y dydd. Cofrestrwch nawr i ymuno â’r drafodaeth (lluniaeth ar gael). Rydyn ni’n mynd ati wedyn i ofyn i bob myfyriwr gwblhau arolwg byr fydd yn rhoi gwybod inni pa fath o brifysgol rydych chi eisiau inni fod. Ar ôl cwblhau’r arolwg, cewch eich rhoi yn y raffl i ennill un o 10 taleb gwerth £100. Edrychwn ymlaen at wrando ar eich barn a sicrhau bod eich safbwyntiau’n llunio cynllun strategol nesaf y Brifysgol.
Murlun Mis Hanes Pobl Ddu
Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i weld Flora: Teyrnged i Chwaeroliaeth a Menywod Du yn y ganolfan chwaraeon, Ffordd Senghennydd. Comisiynwyd y murlun 14 metr o uchder gan y Brifysgol a’i ddylunio gan Unify yn rhan o’n dathliadau ar gyfer Mis Hanes Pobl Ddu eleni.
Ac yn olaf: bydd bywyd myfyrwyr yn llawn profiadau, heriau a chyfleoedd newydd. Os bydd angen cymorth arnoch, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â Cyswllt Myfyrwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr. Y ffordd gyflymaf i gysylltu â’r tîm yw drwy borth Cyswllt Myfyrwyr ar y fewnrwyd.
Rwy’n gobeithio eich bod yn mwynhau’r tymor yn fawr ac edrychaf ymlaen at ysgrifennu atoch chi fis nesaf.
Dymuniadau gorau
Claire
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014