Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Horizon Europe, anghydfod diwydiannol, llwyddiannau ymchwil

30 Mawrth 2023

Annwyl gydweithiwr

Yn gynharach y mis hwn, pleser o’r mwyaf oedd croesawu llysgennad Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Herr Miguel Berger, i lansiad swyddogol Canolfan Max Planck y Brifysgol, ac wedi hynny groesawu Llysgennad yr Undeb Ewropeaidd, Ei Fawrhydi Pedro Serrano ynghyd â’i gymheiriaid o Slofacia, Slofenia a Chyprus. Roedd hyn yn bleser arbennig oherwydd y symbolaeth bwysig ynghlwm wrth y gwella sylweddol yn y berthynas rhwng y DU a’r UE. Yn amlwg, ffocws ein sylw yw’r posibilrwydd y bydd y DU yn mynd yn wlad gysylltiol yng nghyd-destun Horizon Europe, y dewisodd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Frau Ursula von der Leyen, gyfeirio ato yn y gynhadledd i’r wasg a oedd yn cyhoeddi Fframwaith Windsor ddiwedd y mis diwethaf. Bu peth syndod a dychryn na wnaeth llywodraeth y DU ymateb ar unwaith gyda geiriau cynnes o gytundeb, ond mae trafodaethau ar waith y tu ôl i’r llenni i gyfrif am y ffaith bod y fargen ariannol wreiddiol wedi dyddio ers dwy flynedd bellach a bod angen ei hadolygu i gyfrif am hynny. Mae’r Prif Weinidog, ac yntau’n gyn-ganghellor ac yn weithiwr proffesiynol ym maes materion ariannol, yn wyliadwrus ei natur (yn wahanol hwyrach i’w ddau ragflaenydd uniongyrchol) ond ar y lefel bersonol mae’n gymwys i asesu rhinweddau’r cytundeb ariannol, ac mae hyn yn ddefnyddiol ar lawer cyfrif gan ei fod yn caniatáu mesur o optimistiaeth y bydd diweddglo cadarnhaol os nad ar unwaith, yna cyn bo hir iawn. Mae’n rhaid inni fod yn amyneddgar, ond yn y cyfamser, manteisiwch ar warant llywodraeth y DU a pharhewch i gyflwyno ceisiadau yn y ffordd rydych wedi bod yn ei wneud, a hynny mor llwyddiannus, dros y blynyddoedd. Bydd y berthynas waith well ynddi’i hun heb os yn arwain at ragor o gydweithredu academaidd unwaith eto, ac os aiff popeth yn iawn, bydd yn caniatáu i’r DU ailgydio yn ei rôl bwysig wrth galon gwaith Horizon Europe ledled yr Undeb.

Gan symud at faterion yn y DU, er i dridiau o streiciau fynd rhagddynt yn ystod wythnos olaf y tymor, gallwn fod yn obeithiol ynghylch y rhagolygon ar gyfer yr anghydfod diwydiannol. Ymddengys bod awydd gwirioneddol ar y ddwy ochr i weithio tuag at ateb cadarnhaol a fydd o fudd i staff a myfyrwyr ac a fydd yn ystyried anghenion sefydliadau hefyd. Calonogol iawn oedd gweld datganiad ar y cyd ar yr USS sy’n dystiolaeth bendant o’r ffordd hon o weithio, fel yn achos y cytundeb arloesol i drafod amodau a thelerau ar y lefel genedlaethol unwaith na fydd bygythiad o weithredu diwydiannol. Er na fyddai’n bosibl i Gymdeithas Cyflogwyr y Colegau a’r Prifysgolion (UCEA) gael mandad ffurfiol o ran mesurau y mae’n rhaid cytuno arnynt yn lleol wrth reswm, gellir disgwyl yn hyderus y bydd y prifysgolion yn dymuno ystyried yn llawn unrhyw ganllawiau neu fframweithiau a argymhellir. Fel y gwyddoch, mae trafodaethau ar gyflogau bellach mewn caethgyfle ac mae’r cyflogwyr wedi rhoi codiad ar waith i helpu pobl i ymdopi â’r cynnydd parhaus mewn costau byw. Disgwylir codiad arall o 1 Awst ymlaen, ac yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf bydd y set nesaf o drafodaethau ar gyflogau ar gyfer 2024-25. Yn ogystal, unwaith y gall trafodaethau ailddechrau bydd trafodaethau ar y golofn gyflog. O ystyried sefyllfa sylweddol well y cynllun pensiwn, rwyf yn ochelgar o obeithiol y gellir cyflawni llawer yn ystod y misoedd nesaf drwy weithio’n adeiladol ar y cyd.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, gallwn fod yn eithriadol o falch o’n hathrawon benywaidd. Ym 1910, yr Athro Millicent Mackenzie oedd yr athro benywaidd cyntaf yng Nghymru, a’r Athro Edith Morley yn Reading yn 1908, o drwch blewyn felly, oedd Athro benywaidd cyntaf y DU. Os ydw i wedi gwneud camgymeriad, rhowch wybod imi; rwyf yn credu y gallwn ddweud mai’r Athro Mackenzie oedd yr athro benywaidd cyntaf mewn prifysgol siartredig lawn yn y DU. Boed hynny fel y bo, roedd hi’n fenyw ysbrydoledig ac arloesol ac mae ar fin cael ei choffáu a’i chydnabod yn lansiad Parc Mackenzie sydd ar fin cael ei gwblhau wrth ymyl y Prif Adeilad, fel y byddwch chi wedi sylwi arno hwyrach. Y tro diwethaf, soniais fod yr Athro Haley Gomez wedi adrodd ei hanes ysbrydoledig ar The Life Scientific ar Radio 4, a’r mis hwn gallaf roi gwybod bod yr Athro Julie Williams, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil ar Ddementia wedi ymddangos ar yr un rhaglen. Magwyd Julie hefyd ger Caerdydd ac mae wedi datblygu gyrfa ddisglair ym maes ymchwil ar glefyd Alzheimer, gan dreulio cyfnod llwyddiannus yn Brif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen ar gael ar BBC Sounds os bu ichi ei cholli ac mae’n werth gwrando arni. Modelau rôl gwych yw Haley, Julie ac yn wir Millicent Mackenzie ac yn dyst i’r cyfleoedd y gall y system addysg yma yng Nghymru, a Phrifysgol Caerdydd yn benodol, eu rhoi a dyna yn wir yw’r sefyllfa heddiw.

Mae dementia a dirywiad gwybyddol yn feysydd o ddiddordeb arbennig yng Nghaerdydd, ac mae’n bleser gennyf roi gwybod bod ein Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau (MDI), dan arweiniad yr Athro John Atack a Simon Ward, wedi datblygu cyffur newydd sydd bellach yn destun treialon clinigol mewn pobl i drin dirywiad gwybyddol, sef un o elfennau craidd sgitsoffrenia. Mae’r Sefydliad yn rhan hynod bwysig o weledigaeth Prifysgol Caerdydd, sef defnyddio ymchwil wyddonol sylfaenol fel y bydd o fudd i bobl a’r gymdeithas, ac mae’r llwyddiant diweddaraf hwn yn ein rhoi mewn sefyllfa fanteisiol yn hyn o beth. Ni all unrhyw uned darganfod cyffuriau arall mewn prifysgol honni ei bod yn agosáu at y math hwn o lwyddiant, ac mae’r hanfodion bellach yn eu lle i greu llwyfan i arwain yn fyd-eang ym maes niwrowyddoniaeth drosi yma yn ne Cymru. Cyd-ddigwyddiad dymunol yw’r ffaith bod y treial yn cael ei gynnal mewn uned a achredir gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynnyrch Gofal Iechyd (MHRA) ym Merthyr Tudful, sef tref enedigol Julie Williams. Mae John a Simon yn datblygu ystod drawiadol o feddyginiaethau a allai weddnewid bywydau, gan gynnwys edrych ar gyffuriau anopioid i drin poen cronig. Gallaf eich sicrhau na allai’r ffordd hon o weithio fod yn fwy gwahanol i’r broses a arweiniodd at y sgandal opioid trasig a thrychinebus yn yr Unol Daleithiau (a gallwn eich sicrhau nad ydym erioed wedi ceisio na derbyn unrhyw gyllid gan y cwmnïau y tu ôl i oxycontin). Mae’r Sefydliad yn uned wreiddiol ac eithriadol a chanddo ddyfodol disglair, ac rwyf yn falch o fod wedi chwarae rhan wrth ddod â’r tîm i’r Brifysgol a’u cefnogi wrth iddynt barhau i ehangu eu platfform ymchwil a datblygu.

Yn amlwg, mae ein gwaith sy’n gadarnhaol yn gymdeithasol yn ymestyn ledled y campws, ac roedd gennyf ddiddordeb arbennig i weld bod Dr April-Louise Pennant o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol wedi cael cyllid gan yr Ymddiriedolaeth Leverhulme i ymchwilio i hanes Affricaniaid mewn caethiwed y bu eu hecsbloetio yn ariannu Castell Penrhyn a’i ystâd yng Ngogledd Cymru. Fel y bydd unrhyw un sydd wedi ymweld â Chastell Penrhyn yn ei wybod, ychydig iawn sy’n hysbys am y bobl a greodd y cyfoeth a arweiniodd at y lle ysblennydd hwn, a bydd canlyniadau ymchwil Dr Pennant yn helpu i lenwi bwlch sylweddol yn ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o’n hanes ein hun. Efallai’n wir fod hon yn daith bersonol i Dr Pennant hefyd, yr oedd ei nain a’i thaid yn rhan o genhedlaeth Windrush a ddaeth i’r wlad hon o Jamaica, a chan mai teulu Pennant oedd yn berchen ar Gastell Penrhyn nes iddo gael ei roi i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y 1950au. Mae llenwi’r bylchau yn hanes y wlad hon yn hollbwysig i’n dealltwriaeth o’n hunaniaeth gyfunol a dyma dystiolaeth bellach o’r cyfraniad cadarnhaol y mae ein hacademyddion yn ei wneud i’r gymdeithas. Bydd yr allbynnau’n cynnwys adnoddau addysgol y gall amgueddfeydd a sefydliadau treftadaeth megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol eu defnyddio fel y bydd gan y cenedlaethau a ddaw ddealltwriaeth well o lawer o’r byd rydym yn byw ynddo heddiw.

Yn gynharach yn y mis, cawsom ddigwyddiad lansio ardderchog yn y Sefydliad Brenhinol yn Llundain ar gyfer ein Sefydliad Ymchwil ar Imiwnedd Systemau a’n pedwar Sefydliad Arloesi yn y Brifysgol ym meysydd Trawsnewid Digidol, Sero Net, Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl, a Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth. Ym mhob achos, rhoddodd uwch-academydd ac ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa sgwrs gryno, ysbrydoledig ac addysgiadol ac rwyf yn hynod ddiolchgar i’r Athro Syr Richard Catlow o’r Brifysgol sydd hefyd yn Llywydd y Sefydliad Brenhinol am ein croesawu a chynnig lleoliad mor odidog. Daeth llawer iawn o bobl i’r digwyddiad, sef y prif reswm dros ei gynnal yn Llundain, ac o’r herwydd roeddem yn gallu cyflwyno rhagoriaeth ein hymchwil a’n gwaith arloesi i gynulleidfa wybodus a dylanwadol. Pan gyrhaeddais Gaerdydd mwy na ddegawd yn ôl, dywedwyd wrthyf nad ydym yn gweiddi digon am y gwaith anhygoel rydym yn ei wneud a’n bod yn goleuo cannwyll a’i dodi dan lestr, er nad oes neb wedi gallu dweud wrthyf ble mae’r llestr. Bid a fo am hynny, rwyf yn gobeithio ei bod yn amlwg bellach ein bod ni’n llwyddo i gyfleu ein neges i’r bobl gywir yn y ffordd gywir, ac rydym yn gweld bod hyn yn talu ar ei ganfed.

Yn olaf, rwyf wedi cael rhai adroddiadau anffurfiol rhagorol gan Benaethiaid Ysgol am waith ein Swyddogion Ymgysylltu â Myfyrwyr sydd newydd eu penodi. Rwy’n ymwybodol nad oes gan bob Ysgol y rhain, ond fy mwriad yw gwybod rhagor am sut mae’r cynllun hwn am brofiad myfyrwyr yn llwyddo a byddaf yn adrodd ar hyn mewn ebost yn y dyfodol.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor