Cyfleusterau chwaraeon newydd, gweithredu diwydiannol, cymorth ar gyfer eich arholiadau a dyddiadau graddio 2023
18 Ionawr 2023Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 18 Ionawr.
Annwyl fyfyriwr,
Blwyddyn newydd dda, a chroeso ‘nôl. Gobeithio y gwnaethoch chi fwynhau gwyliau’r Nadolig ac y cawsoch chi gyfle i ymlacio.
Cyfleusterau newydd ar gyfer hyfforddi a chwarae ar agor
Ychydig cyn y gwyliau roeddwn yn falch iawn o fod yn rhan o’r gwaith o agor ein safle chwaraeon yn Llanrhymni sydd wedi cael ei ailddatblygu. Mae’r safle wedi’i gwella’n fawr mewn ymateb i adborth gennych chi, ein myfyrwyr, a bydd rhai o gyfleusterau chwaraeon gorau’r DU nawr ar gael ar eich cyfer.
Mae chwaraeon myfyrwyr yn rhywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon ac rwy’n gwybod pa mor bwysig ydyw i gynifer ohonoch. Mae’r buddsoddiad yn y cyfleusterau hyn yn golygu y bydd mwy o fyfyrwyr yn gallu elwa ar chwaraeon. Gwyddom fod hyn yn gallu helpu i wella iechyd meddwl, cyflawniad academaidd yn ogystal â’ch rhagolygon wrth chwilio am swyddi.
Gweithredu diwydiannol
Ddiwedd y llynedd, pleidleisiodd Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU) o blaid gweithredu diwydiannol ac, er nad yw boicot marcio ac asesu bellach wedi’i gynllunio, maent wedi dweud wrthym y byddant ar streic ddydd Mercher 1 Chwefror 2023. Rydym yn aros am gadarnhad gan UCU ynghylch pryd bydd y diwrnodau streic eraill a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y cyfryngau yn cael eu cynnal.
Rwy’n sylweddoli y gallai hyn beri pryder ichi, ond gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau effaith y gweithredu diwydiannol parhaus hwn. Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar y fewnrwyd, a chewch ragor o gymorth gan y gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr.
Paratoi ar gyfer eich arholiadau a’u sefyll
Mae gennym ystod o adnoddau i’ch cynorthwyo i adolygu’n effeithiol, rheoli unrhyw bryderon sydd gennych ynghylch arholiadau, dod o hyd i fan tawel i astudio, rhoi hwb i’ch cymhelliant, a llawer mwy. Da chi, manteisiwch ar y cymorth sydd ar gael i’ch helpu drwy gydol cyfnod yr arholiadau a siaradwch naill ai â’ch tiwtor personol neu’r gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr os ydych yn poeni am eich arholiadau.
Gallwch hefyd gael seibiant o astudio yn ein hystafell ‘adolygu ac ymlacio’, o 16 i 25 Ionawr yn ystafell 1.26 yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr.
Seremoinïau graddio 2023
Gallwn gadarnhau y bydd seremonïau graddio 2023 yn cael eu cynnal rhwng dydd Llun 17 a dydd Gwener 21 Gorffennaf. Os ydych chi’n graddio eleni, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n nodi’r dyddiadau hyn yn eich dyddiaduron. Bydd ein tudalennau graddio ar y we yn cael eu diweddaru pan fydd rhagor o fanylion i’w hychwanegu.
Pob lwc yn eich arholiadau a’ch asesiadau, a byddaf yn ysgrifennu atoch eto cyn bo hir.
Cofion gorau
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014