Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Yfraniad economaidd Prifysgol Caerdydd, Horizon Europe, COST, ymchwil COVID-19

31 Hydref 2022

Annwyl gydweithiwr,

Mae wedi bod yn fis cythryblus ac arteithiol arall yng ngwleidyddiaeth y DU. Ni fyddaf yn ymhelaethu ar hynny i gyd, ac eithrio dweud, o safbwynt y Brifysgol, mai’r hyn sydd ei angen arnom gan weinyddiaeth Sunak yw camau gweithredu effeithiol ar yr argyfwng costau byw, eglurder a sicrwydd ynghylch y polisi ar fisâu mewn perthynas â myfyrwyr rhyngwladol (mae penodi Suella Braverman o’r newydd yn Ysgrifennydd Cartref yn peri pryder penodol yn hyn o beth) yn ogystal ag ymrwymiad y bydd y gwariant ar ymchwil ac arloesi a addawyd yn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant y llynedd yn cael ei gadw. Dyma sefyllfa anodd oherwydd, gan mai £20bn yw’r ymrwymiad (wedi’i wasgaru dros gyfnod o bedair blynedd hyd yn oed), swm sylweddol o arian yw hwn a allai fod yn darged ar gyfer toriadau gwariant. O safbwynt mwy cadarnhaol, mae Rishi Sunak bellach yn Brif Weinidog a Jeremy Hunt yn Ganghellor, ac mae’r ddau ohonynt yn cydnabod gwerth prifysgolion fel sefydliadau hanfodol bwysig sy’n gyrru’r economi rhagddi, hyd yn oed os oes llawer o egwyddorion eraill yn y fantol yn ein barn ni. Byddaf yn adrodd fis nesaf ar yr hyn y bydd Datganiad yr Hydref sydd i’w gyhoeddi ar 17 Tachwedd yn ei olygu inni, ac ar unrhyw newidiadau yn y polisi ar fisâu a fydd hwyrach yn dod i’r fei. Ar y mater hwnnw unwaith eto, peth rhesymol yw gobeithio mai Sunak a Hunt fydd yn ennill y dydd, o ystyried pwysigrwydd recriwtio myfyrwyr rhyngwladol i’w hagenda economaidd.

O ystyried y ffocws ar dwf economaidd sydd wedi bod yn ystod yr wythnosau diwethaf, hoffwn dynnu eich sylw at yr adroddiad diweddaru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfraniad Prifysgol Caerdydd i economi Cymru a’r DU. Mae’r adroddiad yn defnyddio data 2020-21 a hyd yn oed bryd hynny, ar anterth y pandemig, cyfanswm ein heffaith economaidd ar y DU oedd £3.7bn  bron iawn. Mae hyn yn golygu ein bod yn creu £6.40 am bob £1 a wariwn, gan berfformio’n sylweddol well na’n sefydliadau cymharol sydd, ar gyfartaledd, yn creu £5.50 am bob £1 a werir. Ar ben hyn, rydym yn cefnogi 14,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, nid yn unig yng Nghaerdydd ond yn ehangach ledled Cymru a’r DU. Mae ein heffaith wedi cynyddu 6% mewn termau real ers 2016/17, er gwaethaf yr holl amgylchiadau anffafriol rydym wedi’u hwynebu. Beth bynnag yw’r ddrama yn llywodraeth y DU rydym yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol at swyddi a thwf yn y wlad hon a gallwn fod yn hynod falch o hynny.

Gan symud ymlaen at fater arall o ddiddordeb allweddol inni, polisi llywodraeth y DU o hyd yw bod yn gysylltiedig â Horizon Europe, ac nid oes unrhyw reswm i gredu y bydd hynny’n newid. Grant Shapps bellach yw’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac ailbenodwyd George Freeman yn weinidog gwyddoniaeth ar ôl seibiant yn ystod cyfnod byr Truss wrth y llyw. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn oedi o ran bod yn gysylltiedig â Horizon Europe oherwydd ei fod yn ei rwymo wrth ddatrys mater Protocol Gogledd Iwerddon. Nid yw hynny’n rhywbeth y gallwn ddylanwadu arno wrth reswm, felly bydd yn rhaid inni fod yn amyneddgar a’r unig beth i benderfynu yn ei gylch fydd pryd i argymell bod y llywodraeth yn rhoi’r cynllun arall ar waith os bydd y broses o fod yn gysylltiedig yn parhau i lusgo ei thraed. Yn y cyfamser, fodd bynnag, mae’n bwysig parhau i fod yn gwbl gysylltiedig ag Ewrop, ac i’r perwyl hwnnw tua diwedd y mis ymwelais â Brwsel yng nghwmni is-gangellorion eraill o Gymru a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles. Yn rhannol, gwnaed hyn er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i Taith, ond roedd hefyd yn gyfle i ystyried cyfleoedd inni greu cysylltiadau â byd ymchwil y tu allan i Horizon Europe.

Ceir yma ddau brif gyfle. Mae un o’r rhain yn ymwneud â Chymru yn benodol ond mae wrthi’n cael ei ddatblygu o hyd ac ar raddfa fach felly bydda i’n ymdrin â hwn mewn ebost yn nes ymlaen. Rhaglen yw’r cyfle arall sy’n bodoli ers 1971. Mae’n dyddio o’r cyfnod ymhell cyn yr holl raglenni Fframwaith, ac er ei bod yn cael ei hystyried yn gyffredinol yn ffordd o baratoi rhwydweithiau i wneud cais am gyllid Horizon y dyddiau hyn, o ran egwyddor mae’n agored i bawb wneud cais, waeth beth fo’r bwriad yn y pen draw. COST yw’r rhaglen o dan sylw, sef yr acronym yn Saesneg ar gyfer Cydweithredu Ewropeaidd ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Efallai y bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â COST sydd, er gwaethaf yr enw, yn agored i bob disgyblaeth. Rhwydweithiau ymchwil ar ffurf rhaglen waith ar y cyd dros gyfnod o bedair blynedd yw Camau Gweithredu COST, fel y’u gelwir. Ynghlwm wrth y rhain cynhelir gwaith ar y cyd ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg (a’u dehongli’n fras, fel y soniais uchod) gan ddefnyddio cyllid o hyd at €150,000 y flwyddyn Nid yw’r arian yn cyllido ymchwil yn uniongyrchol, ond mae’n rhoi cymorth ar gyfer gweithgareddau rhwydweithio sy’n rhan o Gamau Gweithredu COST, megis cyfarfodydd, rhwydweithio, cynadleddau, cyhoeddiadau, ymweliadau ymchwil tymor byr, hyfforddiant a gweithgareddau lledaenu ymchwil. Er nad yw’r rhaglen yn cymryd lle grant Horizon mewn unrhyw ffordd (ac nid dyna ei diben chwaith), mae’n ffordd i ymchwilwyr y DU ddod o hyd i gyllid yr UE, cymryd rhan neu barhau’n rhan o rwydweithiau ac ymwneud yn gyffredinol â gweithgarwch Ewropeaidd ar adeg pan mae cyfranogiad y DU ym mhrosiectau Horizon wedi gostwng yn sylweddol (fel yn achos y Swistir), er gwaethaf gwariant (wedi’i warantu) cyllid llywodraeth y DU. Mae camau gweithredu COST yn agored i ymchwilwyr ar bob cam yn eu gyrfa gan gynnwys myfyrwyr doethurol, a gall unigolion ymuno â rhwydweithiau sy’n bodoli eisoes neu gynnig rhai newydd. Mae’r broses flaenorol yn arbennig o ddefnyddiol i fyfyrwyr PhD, ymchwilwyr ôl-ddoethurol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan COST ac er bod Brexit wedi cael effaith negyddol ar Gamau Gweithredu COST Caerdydd, fel y gwelsom, mae’n bwysig cydnabod pa mor bwysig yw parhau’n rhan o’r system Ewropeaidd cyhyd ag y gallwn.

Yn olaf, mae llawer ohonom bellach wrthi’n cael ein brechlynnau atgyfnerthu covid a’n brechlynnau ffliw wrth i’r gaeaf agosáu, ac mae ein hymchwilwyr yn parhau i wneud cyfraniadau pwysig at ymchwil yn y maes hwn. Mae tîm o Brifysgol Caerdydd sy’n cynnwys Dr Martin Scurr, yr Athro Andrew Godkin a Dr James Hindley, sy’n gweithio gyda chwmni biotechnoleg lleol, sef Immunoserv Ltd, wedi datblygu prawf gwaed pigiad bys y gellir ei wneud gartref i wybod faint o imiwnedd hirdymor y mae unigolyn wedi’i greu yn erbyn y feirws SARS-CoV-2 sy’n achosi COVID-19. Dyma erfyn pwerus newydd fydd yn asesu lefelau imiwnedd sy’n parhau’n hwy ymhlith y boblogaeth, a bydd hyn yn ei dro yn golygu y gall yr ymateb fod yn fwy manwl gywir o ran ymateb y cyhoedd a bod modd ei ddatblygu’n fwy hyderus. Fel y soniais y tro diwethaf, er nad yw covid yn ein bygwth fel yr oedd ar un adeg, ni fedrwn orffwys ar ein rhwyfau, yn enwedig o ystyried y posibilrwydd y bydd amrywiadau newydd hwyrach yn dod i’r amlwg unwaith. Da o beth i bob un ohonom yw bod ymchwilwyr yng Nghaerdydd ac mewn lleoedd eraill yn parhau i atgyfnerthu ein systemau amddiffyn yn erbyn beth bynnag sydd gan y feirws ar ein cyfer yn y dyfodol.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor