Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Seremonïau Graddio, Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS), taliad untro COVID-19 i ddweud diolch

18 Gorffennaf 2022

Annwyl gydweithiwr,

Fel y llynedd, yn hytrach nag ysgrifennu ddiwedd mis Gorffennaf a pheidio â chysylltu eto tan fis Medi, fel yr oeddwn yn arfer ei wneud, rwyf wedi penderfynu ysgrifennu fy ebost ar gyfer mis Gorffennaf yng nghanol y mis, a byddaf yn ysgrifennu unwaith eto ddiwedd mis Awst. Mae coronafeirws yn parhau i darfu ar drefn arferol y flwyddyn academaidd, yn enwedig o ystyried ein bod wedi gorfod gohirio seremonïau graddio dwy garfan gyfan fydd, o’r diwedd, yn cael cynnal eu dathliadau wyneb yn wyneb hirddisgwyliedig yr wythnos hon.

Rwy’n ymwybodol bod Seremonïau Graddio eleni yn llawer mwy cymhleth nag arfer. Byddwn yn cynnal mwy na 200 o seremonïau yn rhan o Ddigwyddiadau Dathlu’r Ysgolion. Bydd tair seremoni fawr hefyd yn Stadiwm Principality ar gyfer graddedigion 2020 a 2021, yn ogystal â’r rhai sy’n graddio eleni. I bob pwrpas, byddwn yn cynnal digwyddiad tridiau o hyd ar gyfer tua 55,000 o bobl a gwn fod llawer ohonoch wedi gweithio’n eithriadol o galed er mwyn i hyn allu digwydd. Mae pobl wedi dod ynghyd ac wedi symud môr a mynydd, a hynny i drefnu profiad bythgofiadwy i’n graddedigion newydd. Rwy’n sylweddoli pa mor heriol fu’r gwaith hwn, a hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bob un ohonoch am eich dealltwriaeth, eich ymrwymiad a’ch arbenigedd. Mae cynnal y seremonïau a’r dathliadau o ddydd Mercher i ddydd Gwener yr wythnos hon yn ymdrech arwrol, ac rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi chwarae rhan. Byddaf yn trafod hyn unwaith eto mewn mwy o fanylder yn fy ebost nesaf, wrth gwrs, ond ar drothwy Seremonïau Graddio 2022, roeddwn i am bwysleisio fy mod i, ar y cyd ag aelodau Bwrdd Gweithredol y Brifysgol a Chyngor y Brifysgol, yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi ymroddiad staff Prifysgol Caerdydd yn fawr iawn.

Hyd y gwn i, nid oedd yr un epidemiolegydd wedi rhagweld y byddai ton arall o covid sydd yr un mor fawr yn dilyn mor fuan ar ôl ton Omicron. Fodd bynnag, dyna’n union sy’n digwydd yn ôl pob golwg wrth i hyd yn oed ragor o is-amrywolion heintus achosi salwch ar raddfa eang. Er bod brechiadau a heintiau blaenorol yn parhau i reoli effeithiau gwaethaf y tonnau blaenorol o ran salwch difrifol, y niferoedd sy’n gorfod mynd i’r ysbyty a marwolaethau, mae covid serch hynny’n achosi aflonyddwch ar lefel nad oeddem wedi’i rhagweld yn ystod Wythnos y Seremonïau Graddio. Er na fydd hi’n orfodol i bobl wisgo masg, mae gan unrhyw un sy’n mynd i’r seremonïau a’r digwyddiadau graddio neu’n gweithio ynddynt rwydd hynt i wisgo un os ydynt yn dymuno, a hoffwn weld pawb yn parchu dewis unigol pawb. Mae gennym gynlluniau wrth gefn os na fydd staff yn gallu bod yn bresennol am eu bod yn gorfod hunanynysu, ond hoffwn ddiolch i bawb am fod yn hyblyg a sicrhau bod pob un o’n graddedigion yn cael y cyfle i gael ei gydnabod yn bersonol yn nigwyddiad ei Ysgol yn ogystal â chael mynd i’r seremonïau mawr a gynhelir fin nos.

Mae’n gwbl amlwg bod covid yma o hyd, a byddwn yn gweithio ar gynlluniau wrth gefn ar gyfer y gaeaf. Yn y cyfamser roeddwn eisiau nodi bod effeithiau’r pandemig wedi parhau i fynnu ymdrech ychwanegol gan bawb drwy gydol y flwyddyn academaidd hon, gan gynnwys newid i addysgu a chynnal cyfarfodydd ar-lein unwaith eto yn ystod ton gynharach Omicron. Mae’n bwysig cydnabod yr ymdrechion ychwanegol hynny, yn ogystal ag amlygu nad yw covid wedi ein hatal rhag gwella profiad y myfyrwyr fel y nodwyd yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS).

Yn fy ebost ym mis Awst y llynedd bu’n rhaid i mi sôn am ganlyniad siomedig yn yr arolwg hwn wrth i ni gael sgôr is na’r meincnod o ran Boddhad Cyffredinol, a chwympo’n is na’r sector yn gyffredinol. O ganlyniad i hynny, fe wnaethom benderfynu canolbwyntio ar brofiad y myfyrwyr yn ystod blwyddyn academaidd 2021-22, a byddwch eisoes yn gwybod yn ôl pob tebyg bod hyn wedi talu ar ei ganfed. Yn y canlyniad diweddaraf yn gynharach y mis hwn, cynyddodd ein sgôr o ran Boddhad Cyffredinol dros dri phwynt canran. Ar un olwg, efallai nad yw hynny’n ymddangos yn naid enfawr, ond mae’n fwy o welliant na’r sector yn gyffredinol, prifysgolion eraill yng Nghymru a nifer o brifysgolion yng Ngrŵp Russell. Y gwir amdani yw ein bod wedi codi o’r 18fed safle i’r 11eg safle yng Ngrŵp Russell. Mae hyn, heb os nac oni bai, yn cyfiawnhau gwaith ac ymdrechion diflino pawb. Mae llawer i’w wneud eto, a chryn dipyn o le i wella o hyd. Rydym yn parhau i fod yn is na’r meincnod mewn nifer o feysydd ac, mewn termau absoliwt, rydym yn is na’r cyfartaledd o hyd ar gyfer y sector. Fodd bynnag, rydym ar y trywydd cywir a’r her bellach o dan arweiniad Claire Morgan yw gwneud y gwelliant yn gynaliadwy, ymgorffori arferion da a gwneud yn siŵr bod ein myfyrwyr yn gynyddol fodlon ar eu profiad ym Mhrifysgol Caerdydd. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu cymaint at helpu i drawsnewid hyn, a byddaf yn trafod ein cynnydd yn un o fy ebyst yn y dyfodol. Am y tro, braf yw gweld ein bod wedi perfformio’n dda yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, a’n bod yn y 14eg safle yng Ngrŵp Russell o ran pŵer ymchwil. Fodd bynnag, mae’r ffaith ein bod hefyd yn y 11eg safle yng Ngrŵp Russell mewn cysylltiad ag Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn dangos bod modd llwyddo yn y ddau faes fel ei gilydd os awn ati i wneud pethau yn y ffordd iawn, a buddsoddi’n ddoeth.

Yn rhan o’n hymrwymiad i fyfyrwyr, mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod cronfeydd caledi ar gael i’r rheini sydd hwyrach mewn trafferthion ariannol. Am resymau amlwg, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y ceisiadau i’r cronfeydd hyn, sydd wrth gwrs yn cymryd amser ac ymdrech i’w gweinyddu. Felly, rydym wedi penderfynu y bydd £400,000 yn rhagor ar gael i wneud yn siŵr bod cymaint o anghenion â phosibl yn cael eu diwallu, gan ganiatáu i’n myfyrwyr barhau i wneud ceisiadau a chael cymorth.

Yn olaf, ac yn bwysicaf oll, rwyf wedi amlinellu uchod y ffyrdd y mae cydweithwyr wedi gwneud ymdrechion ychwanegol eleni oherwydd y pwysau anarferol y mae’r pandemig, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, wedi’u rhoi ar bawb sy’n gweithio yn y sefydliad. I gydnabod yr ymdrechion hynny, yn gynharach y mis hwn cynigiodd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol i Gyngor y Brifysgol y dylid gwneud taliad ex gratia o £750 i staff y brifysgol. Y cynnig oedd talu swm dewisol nad yw’n bensiynadwy, ac a fydd ond yn digwydd unwaith, yng nghyflogres mis Gorffennaf i gydnabod cyfraniad eithriadol cydweithwyr yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Byddai’r swm arfaethedig hwn yn cael ei dalu ar sail pro rata i staff cymwys yng nghyflogaeth y brifysgol cyn 1 Chwefror 2022 ac sy’n dal i fod yn ein cyflogaeth ym mis Gorffennaf 2022, gan gynnwys Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig sy’n ymwneud â chefnogi gweithgarwch addysgu yn ystod yr un cyfnod. Mae gwybodaeth ychwanegol am y taliad, gan gynnwys pwy sy’n gymwys, ar gael ar fewnrwyd y staff. Rwy’n falch o ddweud bod y Cyngor wedi cymeradwyo ein cynnig, ac felly bydd yr holl staff yn derbyn y taliad fel yr amlinellir uchod. Unwaith eto, diolch yn fawr i chi i gyd am eich holl ymdrechion.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor